PWYLLGOR YMGYNGHOROL YR ESGOBAETH
Mae gan bob Esgobaeth Bwyllgor Ymgynghorol ("DAC")
Mae'r DAC yn cynnwys aelodau sydd ag arbenigedd mewn meysydd penodol sy'n ymwneud ag adeiladau eglwysig, megis pensaernïaeth, organau, archaeoleg, ac ati. Prif swyddogaeth y DAC yw rhoi cyngor i Ganghellor yr Esgobaeth mewn perthynas â cheisiadau am Allueddau i awdurdodi gwneud gwaith mewn eglwysi a mynwentydd. Fodd bynnag, mae'r DAC bob amser yn barod i roi cyngor i blwyfi cyn iddyn nhw wneud ceisiadau am Faculties??
Dylai'r Archddiaconiaid fod yn rhan o bethau ar y cychwyn a byddant yn aml yn cyflwyno'r DAC naill ai ar gyfer eu cyngor eu hunain neu ar gyfer y Plwyf ond ni allant ar unrhyw bryd roi caniatâd i'r gwaith fynd rhagddo. Ni chodir tâl ar y Plwyf am y gwasanaeth hwn, sy'n cael ei gyllido gan y Corff Cynrychiadol sydd â'r cyfrifoldeb cyfreithiol dros yr eiddo. Nod y DAC yw rhannu gwybodaeth, arfer da a phrofiad lle mae'r angen am hynny.
Arweiniad i Reolau'r Gallueddau
Pwrpas y Rheolau
Pwrpas Rheolau'r Gallueddau yw rheoli newidiadau a gwaith trwsio y bwriedir eu gwneud i adeiladau eglwysig a'u cynnwys ac i fynwentydd eglwys. Gallai newidiadau i eglwys fod ag oblygiadau diwinyddol, celfyddydol, pensaernïol neu archeolegol neu gallent godi materion cyfreithiol, diogelwch neu yswiriant. Oherwydd hyn rhaid i'r Eglwys sicrhau fod y ffactorau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus cyn gwneud unrhyw newidiadau. Ar ben hyn, mae CADW, ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, yn rhestru llawer o adeiladau eglwysig fel rhai o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac mae'n mynnu bod newidiadau i'r adeiladau eglwysig hynny'n cael eu rheoli'n llym.
Mae'r rheolau wedi cael eu llunio i gymryd i ystyriaeth nifer o ystyriaethau y tu hwnt i'r rhai trefniadol yn unig, ac ar yr un pryd maen nhw'n ceisio cysoni nifer o ofynion sydd weithiau'n gwrthdaro.
- Maen nhw'n ceisio:
- bodloni anghenion eglwysi fel canolfannau addoli a chenhadaeth ac eto cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol sy'n angenrheidiol i gadw'r eithriad eglwysig (i gael diffiniad o ystyr y term, gweler y pennawd Eithriad Eglwysig yn ddiweddarach);
- bod yn ddigon cynhwysfawr i reoli gweithgareddau adeiladu mawr ac eto i osgoi biwrocratiaeth wrth ddelio gyda materion bach;
- osgoi cyfyngiadau dianghenraid ar drefnu eitemau symudol ac eto darparu ar gyfer ystyriaeth briodol o eglwysyddiaeth;
- bodloni cyfrifoldeb y Corff Cynrychiadol fel ymddiriedolwr o'r eglwysi ac eto peidio â'i orlwytho gyda materion bach;
- gorchfygu'r anhawster blaenorol o ddiffinio eitemau sydd angen "galluedd bach" (sydd wedi cael ei wneud drwy ddileu gallueddau bach a gofyn i bob eitem naill ai gael galluedd llawn neu ddod o fewn rhestr o eithriadau; mae'r rhestr i'w gweld yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, atodlen III).
Mae Rheolau'r Galluedd wedi eu llunio i gymryd yr holl faterion hyn i ystyriaeth tra'u bod, ar yr un pryd, yn ceisio creu cyn lleied o fiwrocratiaeth ag y mae'r sefyllfa'n ei ganiatáu. Rhaid iddyn nhw ddarparu ar gyfer popeth o newid ffitiadau goleuadau i adeiladu tŵr newydd.
MAE galluedd yn....
Trwydded eglwysig yw galluedd (yn y cyd-destun hwn) sy'n rhoi caniatâd i wneud newidiadau ffisegol.
NID yw galluedd yn...
Nid cydsyniad yw galluedd i waredi neu ddelio â pherchnogaeth gyfreithiol unrhyw eitem. Mae'r eglwysi a chynnwys yr eglwysi (yn y rhan fwyaf o achosion) yn eiddo i'r Corff Cynrychiadol ac mae materion gwerthu neu waredu yn gwbl ar wahân i weithdrefnau galluedd. Rhaid ymgynghori â'r Corff Cynrychiadol ar wahân ynghylch materion o'r fath.
Y system galluedd
Mae'r system galluedd yn rhan o'r system farnwrol yn Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru: nid system weinyddol yn unig ydyw. Mae hyn yn golygu os yw unrhyw un yn gwrthwynebu i'r caniatâd galluedd arfaethedig, bydd ganddynt y cyfle i gyflwyno eu hachos yn y llys esgobol. Canghellor yr Esgobaeth sy'n gwneud y penderfyniadau, nid Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth. Mewn gwirionedd, ychydig iawn o'r ceisiadau am alluedd sy'n gorfod cael eu clywed mewn llys agored.
Pryd mae angen galluedd?
Mae angen galluoedd ar unrhyw fwriad i wneud gwaith neu ddelio â chynnwys eglwysi. Mae hyn yn cynnwys eglwysi heb eu cysegru neu fynwentydd eglwys os yw'r Esgob yn dyfarnu hynny. (Y rheswm dros hyn yw sicrhau fod eglwysi neu fynwentydd eglwys o'r fath, os yn rhestredig neu'n sefyll o fewn ardal gadwraeth, yn dod o dan god ymarfer y Wladwriaeth dros gadw Eithriad Eglwysig). Serch hynny, mae rhai eithriadau ac mae'r rhain yn cael eu trafod yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, atodlen III.
- Yn bennaf, nid oes angen galluedd ar gyfer y canlynol: -
- Y materion bychain sy'n cael eu rhestru yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, Atodlen III, er y dylid nodi y gallai'r Esgob neu'r Periglor neu'r Cyngor Plwyf Eglwysig alw am gael galluedd mewn rhai achosion.
- Mae'r materion hynny sy'n ymwneud â mynwentydd eglwys yn cael eu trafod yn y Rheoliadau Mynwentydd Eglwys (y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 2).
Cael gwared ar ddarnau gosod a gosodiadau a chynnwys
Rhaid cael cymeradwyaeth Pwyllgor Eiddo'r Corff Cynrychiadol fel rhan o'r broses Galluoedd lle mae'r adeilad eglwysig wedi ei gysegru er mwyn cael gwared ar ddarnau gosod a gosodiadau a chynnwys. Ar ben hyn, lle mae'r eglwys wedi'i restru ond heb fod yn cael ei ddefnyddio fel man addoli bellach, rhaid i'r bwriad i symud unrhyw eitemau fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fod yn destun cais cydsynio adeilad rhestredig i'r awdurdod cynllunio lleol. Dan god ymarfer y wladwriaeth, mae dyddiad datgan eglwys segur yn cael ei gymryd fel y dyddiad pan mae Eithriad Eglwysig o'r rheolau adeiladau rhestredig yn dod i ben. Mae methiant i sicrhau'r cydsyniad angenrheidiol yn golygu bod potensial i'r person sy'n gyfrifol gael dirwy neu gyfnod o garchar.
Bydd angen cymeradwyaeth galluedd gan y llys esgobol i symud eitemau cyn i'r eglwys fod yn segur. Os oes bwriad trosglwyddo eitemau i adeilad eglwysig arall sy'n gyfrifoldeb i Gorff Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru bydd angen cymeradwyaeth galluoedd hefyd gan lys esgobol yr adeilad eglwysig sy'n eu derbyn. Os oes unrhyw amheuaeth dylid ymgynghori ag ysgrifenyddion Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol yr Esgobaeth a/neu Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth ynghyd â Swyddog Eglwysi'r Corff Cynrychiadol.
Rheoliadau Eglwysi Segur
Pan fydd yr Esgob yn datgan fod yr eglwys yn segur, bydd y Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol yr Esgobaeth yn ceisio arweiniad gan y DAC ar unrhyw nodweddion archeolegol, celfyddydol a hanesyddol yn yr Eglwys a'r hyn sydd ynddi.

