To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

 

CYHOEDDIADAU

Mae gan DAC lyfrgell gyfeirio ac mae rhestr o'r llyfrau i gyd ar gael gan Ysgrifennydd y DAC.
Mae'r Cyngor Gofalu am Eglwysi a'r Comisiwn Adeiladau Cadeirlannau Lloegr, Church House Publishing, Great Smith St, Llundain, SW1P 3NZ wedi cynhyrchu amryw o gyhoediadau defnyddiol ar ofalu am fynwentydd eglwys.
Mae Church House Publishing hefyd yn cynhyrchu'r Churchyards Handbook, sy'n darparu cyngor ar ofalu amdanynt a'u cynnal a'u cadw. Dylid darllen y llyfrynnau hyn law yn llaw â'r rhannau perthnasol o'r Cyfansoddiad (yn enwedig Rheoliadau Gweinyddu Mynwentydd Eglwys a'r Rheoliadau Adeiladau Eglwysi (y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 2).
Er y gall fod disgwyl i bensaer y plwyf lunio rhestr o gwmnïau sy'n cael eu gwahodd i gynnig tender, rhaid i'r dewis terfynol o gontractwr gael ei gadarnhau gan y Cyngor Plwyf Eglwysig cyn llofnodi'r contract a chyn i unrhyw waith gychwyn. Mae'n bwysig hefyd, gan mai'r Cyngor Plwyf Eglwysig sy'n gyfrifol am gyllid y plwyf (gweler pennod 6 y llawlyfr hwn) fod y penderfyniad i benodi'r contractwr ac i ymrwymo arian yn cael ei gofnodi yn y Llyfr Cofnodion.
Mae Rheoliadau Gweinyddu Mynwentydd Eglwys i'w gweld yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 2 ac maen h'wn disgrifio cyfrifoldeb y PCC dros ofal, a gwaith cynnal a chadw'r fynwent yn cynnwys y waliau, y gatiau, y ffensys, y coed, ac ati.  
Mae copi o'r Rheoliadau, ar ffurf poster, ar gael gan Swyddfa'r Eglwys yng Nghymru, 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 2XF ar gyfer ei arddangos.
Mae llawer o blwyfi'n canfod y bydd Cronfa Cynnal Mynwentydd Eglwys, sy'n gysylltiedig ag amcanion clir, yn denu cefnogaeth ariannol gan y Cyngor Cymuned a gan unigolion, yn enwedig y rhai sy'n byw yn yr ardal gyfagos, na fyddai fel arall yn cyfrannu tuag at gronfeydd Cyngor Plwyf Eglwysig.
Mae Adran 15 Rheoliadau Gweinyddu Mynwentydd Eglwys yn gosod allan pa gerrig beddau all gael eu derbyn i'r fynwent gan y Periglor neu'r Archddeacon, fel arall ni all unrhyw gofeb na charreg fedd gael ei dderbyn i'r fynwent heb Alluedd.
Er mwyn symud neu ail-osod carreg fedd neu gofeb arall er mwyn tacluso mynwent neu gladdfa, mae'n rhaid gwneud cais i Gofrestrydd yr Esgobaeth (Rhaglith i'r Rheoliadau sy'n ymweud â Symud Cofebau neu Gerrig Beddau).
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn darparu ar gyfer grantiau a benthyciadau fydd yn cael eu rhoi dan amgylchiadau penodol gan y Cyngor Cadwraeth Natur.
Mae'n hanfodol bwysig cadw cofnod o'r holl gladdedigaethau mewn mynwent eglwys. Dylid cadw cynllun wedi'i rifo yn cynnwys enwau'r rhai sydd wedi eu claddu gyda'r Llyfr Log, y Tirlyfr a'r Rhestr Eiddo. Pan fydd mynwent eglwys yn cael ei gau, nid yw'n bosibl i orfodi'r awdurdod lleol i gymryd cyfrifoldeb drosto, er y gall fod yn bosibl negydu trefniant o'r fath.


dolenni

Dylai bywoliaethau sy'n dymuno dyrannu eu Cyfran y Weinidogaeth gan ddefnyddio fformiwla'r Esgobaeth glicio fan hyn i lawrlwytho manylion yn MS Word (400k).
Mae Pwyllgor Gweithredul Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth wedi mabwysiadu Trefn Apeliadau yn erbyn dyraniad Cyfran y Weinidogaeth.
Apêl yn erbyn Dyraniad Cyfran y Weinidogaeth (MS Word, 320k)
http://www.churchinwales.org.uk/david/disclaimer

 

PWYLLGOR YMGYNGHOROL YR ESGOBAETH - Trefn

  • Dyma grynodeb o'r drefn.
    • Rhaid i'r ceisydd, sy'n gorfod bod yn un o'r bobl a ddisgrifir yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, rheol 8, arddangos mewn man cyhoeddus amlwg, yng nghyffiniau'r eglwys, hysbysiad o'i f/bwriad i ddeisebu'r Llys Esgobol am alluedd. Rhaid iddo/i anfon copi o'r hysbysiad at Ysgrifennydd y DAC a rhaid caniatau i'r hysbysiad gael ei arddangos am o leiaf 28 diwrnod. Bydd Ysgrifennydd y DAC yn cynghori ynghylch pa hysbysiadau y mae'n rhaid eu cyhoeddi mewn papurau newydd lleol. Bydd ef/hi yn anfon manylion y gwaith arfaethedig perthnasol at CADW, yr awdurdod cynllunio lleol a'r cymdeithasau amwynderau statudol lle mae'r eglwys wedi'i rhestru neu'n sefyll mewn ardal gadwraeth.
    • Ar derfyn yr wyth diwrnod ar hugain, rhaid i'r ceisydd anfon deiseb at Ysgrifennydd y DAC gyda'r ffurflen ymholi wedi ei hateb (ffurflen 3), tystysgrif i ddangos fod yr hysbysiad wedi cael ei arddangos, datganiad gan y Periglor a'r wardeiniaid eglwys yn dweud p'un a ydynt yn gwrthwynebu'r ddeiseb ai peidio, copi o unrhyw benderfyniad perthnasol gan y cyngor plwyf eglwysig, manylion unrhyw ymgynghorwyr proffesiynol a thystiolaeth o yswiriant digonol yn erbyn unrhyw risgiau allai godi yn sgil gwneud y gwaith arfaethedig.
    • Bydd Ysgrifennydd y DAC wedyn yn anfon copïau o'r dogfennau hyn at y DAC.
    • Bydd y DAC yn anfon copi o'r cofnod perthnasol at y ddeiseb. Os oes gan yr esgob unrhyw farn, gall ei fynegi drwy'r archddeacon.
    • Bydd Ysgrifennydd y DAC yn anfon copïau o'r ddesieb a'r dogfennau eraill a'r 'cynghorau' at y Corff Cynrychiadol lle mae teitl neu yswiriant yr eglwys yn cael ei effeithio neu lle mae bwriad i waredu'r cynnwys.
      Bydd hi/ef wedyn yn anfon y dogfennau at Ganghellor yr Esgobaeth fydd naill ai'n caniatau'r alluedd neu'n cyhoeddi gwŷs yn gofyn bod unrhyw wrthwynebiad yn cael ei wneud o fewn pedwar diwrnod ar ddeg i gyhoeddi'r wŷs.  Os nad oes unrhyw hysbysiadau gwrthwynebu gall y Canghellor wedyn ganiatau'r alluedd. Os ceir unrhyw hysbysiadau gwrthwynebu bydd y Canghellor yn trefnu dyddiad gwrandawiad. Os yw ef/hi'n credu ei bod hi'n briodol, gall wahodd y partïon i gyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig, ac os cytunant, gall y mater gael ei ystyried heb wrandawiad. Gall fod gofyn i'r rhai sy'n cyflwyno hysbysiadau gwrthwynebu adneuo arian neu weithredu bond fel sicrwydd yn erbyn costau.
    • Bydd y Canghellor wedyn naill ai'n caniatau neu'n gwrthod y galluedd.
    • Os caiff y galluedd ei ganiatau, ar ôl i'r gwaith gael ei wneud, rhaid i'r Periglor a'r wardeiniaid eglwys anfon tystysgrif yn nodi hynny at y Cofrestrydd (ffurflen 9).
    • Mae darpariaethau ar gyfer apelio wedi eu nodi yn y ffurflenni lle mae'r ceisydd am i benderfyniad y Canghellor gael ei ystyried gan y Llys Taleithiol.

Cerrig Beddau

Nid oes angen galluedd ar gyfer codi carreg fedd os caiff ei godi'n unol â'r Rheoliadau Mynwentydd Eglwys (gweler y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 2). Gyda cherrig beddau nad ydynt yn dod o fewn y rheoliadau, rhaid dilyn y drefn galluedd. Mae CADW wedi hyrwyddo rhestru llawer o feddau a nodweddion mynwentydd eglwys ynddynt eu hunain. Ar yr adeg hon rhaid gwneud cais caniatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth ar wahân parthed unrhyw waith allai effeithio'n sylweddol ar gymeriad eitemau o'r fath.

Terfynau Amser

Mae'r rheolau'n gosod terfynau amser ar gyfer y gwahanol gamau yn y broses. Maen nhw wedi cael eu cadw mor fyr ag sy'n ymarferol, er mwyn osgoi oedi dianghenraid wrth ddelio gyda deisebau. Fodd bynnag, os oes anhawster yn cwrdd â therfyn amser, mae gan y Canghellor ddisgresiwn cyffredinol i ymestyn yr amser. Os oes esiau hynny, dylid gwneud cais iddo cyn i'r terfyn amser yn y rheolau gyrraedd.

Yr eithriad eglwysig

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy CADW, yn llunio rhestr o adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig, archaeolegol neu hanesyddol ac mae'n creu Ardaloedd Cadwraeth. Nid oes gan unrhyw berson hawl i wneud gwaith neu i i dynnu adeliad rhestredig i lawr neu ei altro neu ei ymestyn mewn unhryw ffordd fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb fel hyn heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, nid oes angen caniatâd adeilad rhestredig a/ neu Ardal Gadwraeth mewn perthynas ag unrhyw adeilad eglwysig sy'n gyfrifoldeb y Corff Cyrychiadol sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio at bwrpas eglwysig. Mae darpariaethau tebyg yn berthnasol mewn ardaloedd cadwraeth. Gelwir hyn yn "Eithriad Eglwysig". Bydd yr Eglwys yn cadw'r eithriad hwn dim ond os yw'n cadw at god ymarfer sydd wedi gael ei osod i lawr gan y Wladwriaeth. Mae'r Corff Llywodraethol wedi pasio y dylai'r Eglwys fabwysiadu'r cod er mwyn galluogi cadw'r Eithriad Eglwysig, ac mae'r Rheolau Galluedd wedi cael eu cynllunio i gydymffurfio â'r cod ymarfer. Pe byddai'r eithriad hwn yn cael ei golli byddai'r Eglwys yn dod dan anfantais difrifol oherwydd:

  • Byddai ei allu i drefnu ei ffurf o addoli neu i addasu ei adeiladau i gwrdd ag amodau sy'n newid yn cael ei gyfyngu'n fwy.
  • Byddai'n rhaid i'r Eglwys ddilyn y drefn caniatâd adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth yn ogystal â'r broses galluedd, fyddai'n golygu treulio mwy o amser, gwario mwy o arian a defnyddio mwy o adnoddau.

Gorfodi'r Rheolau

Mae Rheolau'r Galluedd yn orfodol dan y gyfraith gan y Corff Cynrychiadol yn y llysoedd sifil. Byddai achos cyfreithiol llwyddiannus yn golygu y byddai'r person oedd wedi gwneud gwaith ar eglwys yn gyfeiliornus yn gorfod talu i unioni'r sefyllfa. Gallai achosion o dorri'r Rheolau arwain at yr Eglwys yng Nghymru'n colli'r Eithriad Eglwysig. Ymhellach, gall torri'r Rheolau arwain at y Corff Cynrychiadol yn atal grantiau i eglwysi rhag cael eu talu i blwyfi.

  • Rhai pwyntiau sy'n aml heb eu deall:
    • Nid yw galluedd yn rhoi caniatâd i gael gwared ar ddim byd. Rhaid ceisio'r caniatâd hwnnw gan Bwyllgor Eiddo'r Corff Cynrychiadol.
    • Nid oes bellach unrhyw "allueddau llai" na "thystysgrifau archddeaconiaid".
    • Mae'r DAC yn rhoi cyngor: dydyn nhw ddim yn penderfynu a yw galluedd yn cael ei ganiatau ai peidio.
    • Nid mater mewnol i'r eglwys yn unig yw'r Rheolau. Os nad yw'r Rheolau'n cael eu dilyn gallai'r Eglwys yng Nghymru golli'r Eithriad Eglwysig.

Ceisio Cyngor

Prif swyddogaeth Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth (DAC) yw rhoi cyngor i Ganghellor yr esgobaeth ar unrhyw gais galluedd y mae'n rhaid iddo benderfynu yn ei gylch.  Dylai Cynghorau Plwyf Eglwysig nodi rôl llawer ehangach y DAC fel sy'n cael ei nodi yn y Cyfansoddiad, Cyfrol II, Adran 4.2, Atodlen II, rhan II. Yn neilltuol, argymhellir bod plwyfi'n trafod cynigion i wneud newidiadau yn eu heglwys gyda'r DAC cyn mynd i gostau proffesiynol mawr na chostau eraill ynghlwm wrth y cais galluedd. Cysylltwch ag ysgrifennydd eich DAC i drafod eich cynlluniau.
Pan fydd Cynghorau Plwyf Eglwysig yn derbyn Grant Adeiladau Hanesyddol gan Cadw, maen nhw'n ffurfio contract gyda Cadw. Mae'r contract hwn, sy'n cael ei ddisgrifio yn y llythyr cynnig, yn golygu fod rhaid i'r Cyngor Plwyf Eglwysig ymgynghori â Cadw ynghylch unrhyw waith yn y dyfodol sy'n cael ei wneud o fewn 10 mlynedd i dderbyn y grant. Mae'r ymgynghoriad yn ychwanegol i'r broses galluedd, ac ar wahân iddi, ac mae'n bennaf er mwyn i Cadw allu sicrhau nad oes dim yn digwydd i'r adeilad yn y dyfodol allai danseilio'r gwaith cymorth grant.  Dylid pwysleisio nad yw caniatau galluedd yn trechu'r angen i ymgynghori â Cadw os oes grant wedi cael ei roi yn flaenorol. Pe byddai gwaith yn cael ei wneud heb gymeradwyaeth Cadw, gallai Cadw ofyn am dalu'n ôl cymorth grant a dalwyd eisoes. 

Cyrff Dyfarnu Grantiau

Gall Cronfa Treftadaeth y Loteri hefyd ddarparu cymorth grant os yw'r plwyf eisoes wedi gwneud cais i CADW. Mae'r Atodiad i lyfryn HLF ar Grantiau Trwsio ar gyfer Mannau Addoli yng Nghymru 2003-2005 yn darparu'r canllawiau cyfredol. Gellir cael at yr wybodaeth hon hefyd drwy fynd i http://www.hlf.org.uk/English/InYourArea/Wales
Cronfa Treftadaeth y Loteri Swît 5a, Tŷ Hodge, Guildhall Place, Caerdydd CF10 1DY  Ffôn:  029 2034 3413 Ffacs:  029 2034 3427
Gall cymorth grant hefyd fod ar gael o nifer o ffynonellau eraill, yn cynnwys y Pwyllgor Eiddo neu Bwyllgor Eglwysi a Bugeilio'r Esgobaeth. Mae rhestr o gyrff o'r fath ar gael gan Ysgrifennydd yr Esgobaeth neu swyddog Stiwardiaeth yr Esgobaeth neu gan y Corff Cynrychiadol. Mae'n bwysig holi a yw rheolau'r corff sy'n rhoi'r grant yn ganiatau talu grantiau'n adolygol, os yw'r plwyf yn dymuno mynd ymlaen â'r gwaith cyn i'r grant gael ei gadarnhau. Gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri, gall hefyd fod yn briodol trafod moeseg gwneud cais gyda'r PCC cyn ei gyflwyno.