CYNGOR CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL ESGOBAETH TYDDEWI
Elusen Gofrestredig Rhif 244178
Fel olynydd i’r corff a’i rhagflaenai, sef y Pwyllgor Lles Moesol, hawlia cyfansoddiad llywodraethol yr elusen ei bod yn gweithredu ym maes lles moesol cyffredinol yn Esgobaeth Tyddewi. Cyn i lywodraeth leol gael ei diwygio, mabwysiadu oedd swm a sylwedd y gwaith.

Bellach, a hynny ers rhai blynyddoedd, canolbwyntir ar ddatblygu cymunedol – yn bennaf drwy gyfrwng ei phrif brosiect, Plant Dewi.
- Penodwyd Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol rhan-amser ym 1993, a chyflawnwyd, drwy’r person hwnnw, yr enghreifftiau canlynol o waith cymdeithasol:
- Prosiect tai cymdeithasol, law yn llaw gyda grwp tai Gwalia yn Nheras Parc Bigyn, Llanelli
- Prosiect Canolfan Deuluol Sant Paul, Llanelli
- Ail brosiect tai cymdeithasol yn Eglwys Sant Pedr, Llanelli
- Datblygiad Undeb Credyd gyda Canolfan Gydweithredol Cymru
- Canolfan Deuluol ym Mhenparcau Aberystwyth, law yn law â’r Gymdeithas Blant Gatholig, a Chyngor Sir Ceredigion
- Law yn llaw â’r Samariaid, y Swyddfa Gymreig ac Awdurdodau Lleol, cynlluniau gwybodaeth ar gerdyn mewn ymateb i ofidiau ynglyn ag enghreifftiau o hunan-laddiad yng nghefn-gwlad
- Prosiect “Blwyddyn y Teulu” y Cenhedloedd Unedig
- Cefnogi dioddefwyr yn Nyfed
- Prosiect cefnogi pobl dan nawdd Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyfrannodd is-grwpiau’r Cyngor Cyfrifoldeb Cymdeithasol at waith Comisiwn Warnock
- Prosiect “Night Stop” Caerfyrddin
- Cynrychioli cymunedau ffydd mewn gwaith Cynllunio Brys yn siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion
- Cefnogi Cyfrifoldeb Cymdeithasol Taleithiol /Eglwys a Chymdeithas -yr Eglwys yng Nghymru
- Masnach Deg

