dcmm
Mae Cyngor Cenhadaeth a Gweinidogaeth Esgobaeth Tyddewi (DCMM) yn ceisio cydlynu gwahanol agweddau cenhadaeth, gweinidogaeth a thystiolaeth yr Eglwys yn yr esgobaeth.
Tîm Cyfathrebu
Mae cyfathrebu yn ganolog i Gristnogaeth, a phrif neges Cristnogaeth yw bod Iesu Grist yn newyddion da. Dilynwch y cyswllt hwn am ragor o fanylion.
Plant ac Ieuenctid
Mae llawer iawn o waith yn digwydd gyda phlant yn yr Esgobaeth: Dyddiau Hwyl, Ysgolion Sul, Addoli i Bob Oed, Clybiau Ysgol, Grwpiau Rhieni-Babanod.
Mae Swyddog Plant yr Esgobaeth yn gweithio gyda’r Tîm Plant i drefnu Digwyddiadau i’r Esgobaeth ac i gefnogi’r plwyfi yn eu gwaith gyda phlant. Un ffordd o wneud hyn yw annog eglwysi i gymryd rhan yn y cynllun cenedlaethol Eglwysi Cyfeillgar i Blant.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon i ganfod beth sydd ar gael i’ch plant, neu sut y gallwch wella eich gwaith gyda phlant yn eich eglwys eich hun. Dilynwch y cyswllt hwn am ragor o fanylion.
Tîm Ieuenctid yr Esgobaeth
Dilynwch y cyswllt hwn am ragor o fanylion.
Plant Dewi
– rhoi Ffydd ar Waith a meithrin cymuned fwy cynhwysol
Mae Tîm Datblygu Cymunedol Plant Dewi’n gweithio mewn plwyfi ledled yr Esgobaeth i rymuso pobl leol i ofalu mewn modd ymarferol am y teuluoedd, y plant a’r bobl ifanc o’u cwmpas.
Dilynwch y cyswllt hwn am ragor o fanylion.
Llawlyfr Eciwmenaidd
Mae’r Llawlyfr Eciwmenaidd ar gael arlein drwy ddilyn y cyswllt hwn.
Grŵp Cenhadaeth Byd-eang Esgobaeth Tyddewi
Swyddogaeth grŵp Cenhadaeth Byd-eang yr Esgobaeth yw annog plwyfolion i weld eu hunain fel Cristnogion sy’n perthyn i Eglwys fyd-eang, er mwyn i ni allu cymryd rhan mewn cenhadaeth dramor mewn ffordd sy’n cynyddu ac yn herio ein ffydd ein hunain. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phob Cristion yn y gobaith o weld pobloedd y byd cyfan yn datgan mai Iesu yw’r Arglwydd.
Rydym eisiau i bobl fod yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael a’r mentrau y gellir eu defnyddio i gryfhau ein galwad i ymestyn Teyrnas Dduw mewn gwledydd eraill. Ar yr un pryd, gallwn gael ein hysbysu a’n cefnogi gan yr Eglwys dramor.
Yn y llun mae aelodau Grŵp Cenhadaeth Byd-eang Tyddewi gyda’r Gwir Barchg George Katwesigye (Esgob Kigezi, Uganda) a Mrs Laura Katwesigye, Mehefin 2006
Dilynwch y cyswllt hwn am ragor o fanylion ar y Grŵp Cenhadaeth Byd-eang

