Amddiffyn plant
Mae Grŵp Amddiffyn Plant yr Esgobaeth yn atebol i’r Esgob ac yn cael ei gynnull gan Swyddog Amddiffyn Plant yr Esgobaeth ar ran yr Esgob. Pwrpas y grŵp yw cefnogi cynrychiolydd amddiffyn plant yr Esgob (Swyddog Amddiffyn Plant yr Esgobaeth).
Un o flaenoriaethau’r grŵp yw effeithlonrwydd. Dylai’r grŵp adlewyrchu cydbwysedd o glerigwyr a lleygwyr a rhyw, a dylai gynnwys rhai o’r unigolion allweddol megis Swyddog Amddiffyn Plant yr Esgobaeth, Archddiacon, Caplan yr Esgob, y Swyddog Plant, y Swyddog Ieuenctid a chynrychiolydd o’r tair archddiaconiaeth. Dylai anelu at ddarparu cynrychiolaeth mor eang â phosibl o arbenigedd mewn gwarchod plant.
Mae gan y grŵp rôl bwysig yn darparu gwybodaeth, yn hwyluso mynediad i hyfforddiant ac yn sicrhau mecanweithiau monitro cadarn ar gyfer pob plwyf yn yr esgobaeth, mewn perthynas â chanllawiau’r Eglwys yng Nghymru “Plant a Phobl Ifanc”.
EIN HYMRWYMIADAU I BLANT A PHOBL IFANC
Gadewch i’r plant ddod ataf fi a pheidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae Teyrnas Nefoedd yn perthyn.
(Mathew 19:14)
Ymhlyg yn y geiriau hyn gan Iesu mae cydnabyddiaeth o statws unigryw plant a phobl ifanc. Byddwn yn parchu plant fel personau yn eu rhinwedd eu hunain ac yn rhoi amddiffyniad arbennig iddyn nhw oherwydd eu bod yn agored i niwed.
- Derbyniwn a phwysleisiwn brif egwyddor Deddf Plant 1989 sef fod lles y plentyn o’r pwys mwyaf dan bob amgylchiad.
- Byddwn yn gweithredu’n gyfrifol ac yn unplyg tuag at blant a phobl ifanc drwy beidio â chymryd mantais o’r rhai sydd dan ein gofal.
- Rhaid i ni weithredu’n gyfrifol ac yn unplyg tuag at blant a phobl ifanc mewn ffyrdd fydd yn diogelu eu hymddiriedaeth ynom. Ni chaiff neb gymryd mantais o’r rhai dan ein gofal.
- Ni fyddwn yn camddefnyddio ein perthynas o ymddiriedaeth at bwrpas hunanfoddhad a bydd y safonau gofal gorau posibl yn cael eu cynnal dan bob amgylchiad.
- Rhaid trin unrhyw honiadau o gamdriniaeth a risg o niwed yn ddifrifol.
“Plant a Phobl Ifanc”. Dywed y cod ymarfer da i’w ddefnyddio gan blwyfi’r Eglwys yng Nghymru:
- Rhaid i bob plwyf gael Polisi Amddiffyn Plant. Mae Amddiffyn Plant yn gyfrifoldeb ar bob Cyngor Plwyf a rhaid iddynt fabwysiadu Polisi Amddiffyn Plant a’i adolygu’n rheolaidd. Pwrpas hyn yw darparu amgylchedd diogel ar gyfer ein gwaith yn y plwyfi gyda phlant a phobl ifanc. Argymhelliad 1 – Polisi Drafft – Atodiad 1 (tudalen 12)
- Gweithredu’r Polisi Amddiffyn Plant Argymhellion 2 a 3 (tudalennau 4 a 5) – Dylai pob Plwyf (Cyngor Plwyf) benodi Cydlynydd Amddiffyn Plant y Plwyf – Disgrifiad o’r Swydd – Atodiad 2 (tudalen 14)
- Gweithdrefnau recriwtio a dethol – mae’r rhain yn berthnasol i bawb ac yn disgrifio rolau’n glir. Dylai pawb ddeall y rolau hyn. Argymhellion 5,6,7,8,9,10,11 ac 13
- Mae angen gwiriadau CRB ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc neu sy’n dod i gyswllt rheolaidd heb oruchwyliaeth â nhw – Atodiad 7 (tudalennau 21/22/23)
Beth yw’r prif bwyntiau i fod yn ymwybodol ohonynt wrth ofalu am blant a gweithio gyda nhw?
Argymhelliad 3 tudalen 4.
- Mae lles y plentyn o’r pwys mwyaf.
- Rhaid cael oedolyn arall yn y cyffiniau wrth ddelio gydag un plentyn neu ragor.
- Dylid osgoi cyswllt corfforol amhriodol â phlant.
- Dylid gwrando ar blant.
- Dylid darparu amgylchedd diogel, iach a symbylol.
Os ydw i’n pryderu am blentyn, neu os bydd plentyn yn dweud wrthyf ei f/bod yn cael ei gam-drin, beth ddylwn i ei wneud?
Argymhelliad 12 tudalen 9 ac Atodiad 9
- Gweithredwch bob amser. Peidiwch ag oedi.
- Dylid adrodd am bryderon difrifol wrth yr awdurdod priodol ar unwaith, sef y Gwasanaethau Cymdeithasol/yr Heddlu, gan ddweud: “Dwi eisiau adrodd am blentyn sydd mewn perygl o gamdriniaeth.”
- Dywedwch wrth yr hysbyswr eich bod yn bwriadu gweithredu.
- Gwnewch gofnod, gyda’r dyddiad, o beth mae’r plentyn a/neu’r oedolyn yn ei ddweud.
- Os mai’ch arsylwadau chi sy’n eich arwain i amau camdriniaeth, ysgrifennwch y rhesymau dros eich amheuaeth a nodi’r dyddiad.
- PEIDIWCH â holi’r plentyn, na cheisio ymchwilio honiadau o gamdriniaeth - nid eich gwaith chi yw gwneud hynny ac efallai y gallai’ch gweithredoedd lygru ymchwiliadau gan awdurdodau cyfreithlon.
- PEIDIWCH â thrafod y mater gydag unrhyw berson heb awdurdod.
- Am gyngor a chefnogaeth, cysylltwch â Swyddog Amddiffyn Plant yr Esgobaeth.
Beth yw arwyddion posibl camdriniaeth plant?
- cleisiau, yn enwedig rhai sy’n dod yn ôl
- pornograffi plant
- plentyn yn mynd i’w gragen
- cwyno am boen
- crefu sylw
- marciau llosg
- ymosodol tuag at blant eraill
- eisiau bwyd yn barhaus
- dillad annigonol
- ofn oedolion
- ymddygiad rhywioledig
Nid yw’r rhestr uchod yn un ddiymwad a gall gyfeirio at gyflyrau eraill.
Ym mis Ionawr 2005 cafodd diwygiadau ac ychwanegiadau pwysig eu hanfon allan i gael eu hymgorffori yn nhestun “Plant a Phobl Ifanc – Côd ymarfer da i’w ddefnyddio gan blwyfi’r Eglwys yng Nghymru.” Roedd y diwygiadau hyn yn cynnwys:
- Atodiad 9 – Canllawiau ar ddelio gyda datgeliad, amheuaeth neu ganfod camdriniaeth.
- Beth i’w wneud os oes datgeliad amheus yn cael ei dderbyn gan y CRB.
- Delio gyda honiadau yn erbyn Gweithiwr Eglwysig.
- Troseddwyr rhyw yng nghymuned yr Eglwys.
- Recriwtio cyn-droseddwyr.
- Polisi Diogelwch Datgeliadau CRB.
Mae “Plant a Phobl Ifanc – Côd ymarfer da i’w ddefnyddio gan blwyfi’r Eglwys yng Nghymru” yn ymwneud ag amddiffyn plant a phobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanynt ac yn gweithio gyda nhw. Gallwn gefnogi’r gofal a’r amddiffyn hwn yn y ffordd y gweithiwn gyda phlant a phobl ifanc, gan feithrin eu hunan-barch a’u helpu i ddatblygu gwerthoedd a sgiliau bywyd addas.
Cysylltiadau gyda Byrddau Diogelu Plant Lleol (a elwid gynt yn Bwyllgor Ardal Amddiffyn Plant):
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Sir Benfro
- Gwasanaeth Ymgynghorol Amddiffyn Plant i Eglwysi
- NSPC
- Childline
- Kidscape

