To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Rydym yn hysbysebu ar gyfer penodi Swyddog Plant. Felly i gael rhagor o wybodaeth am waith plant yn yr esgobaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Esgobaeth.

Grwpiau plant

Mae ugeiniau o grwpiau plant yn yr esgobaeth.

I ddod o hyd i’r grŵp agosaf atoch chi, cysylltwch ag Alan Chadwick: alan.chadwick@hubberston.org.uk

Er mwyn cofrestru eich grŵp, anfonwch y wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r grŵp
  • Ble mae’n cwrdd
  • Pryd mae’n cwrdd
  • Ystod oedran
  • Manylion cyswllt: enw a chyfeiriad ebost a/neu rif ffôn.

Anfonwch hwn at: alan.chadwick@hubberston.org.uk

Plant

Amddiffyn Plant 

Ewch fan hyn i weld rhagor o fanylion ar Grŵp Amddiffyn Plant yr Esgobaeth. 

Adnoddau

Galwad i Rannu Ffydd: cwrs hyfforddi ar gyfer gweithwyr plant, yn edrych ar ddatblygiad plant, datblygiad ysbrydol, addoli a dysgu, addysgu ac arwain.

Roots: Ar gyfer 2007 mae’r Tîm Plant yn cynnig gostyngiad o 50% i grwpiau yn Esgobaeth Tyddewi sy’n tanysgrifio am flwyddyn i Roots. Mae Roots wedi datblygu adnoddau ar gyfer grwpiau plant ac ar gyfer addoliad pob oed sy’n cyd-fynd â’r Llithiadur Cyffredin Diwygiedig (RCL).  Ewch i wefan Roots i ganfod mwy: rootsontheweb.com

Cysylltwch ag Alan Chadwich am y cymhorthdal: alan.chadwick@hubberston.org.uk

Cynllun Eglwysi Cyfeillgar i Blant

Cynllun Eglwysi Cyfeillgar i BlantCafodd y Cynllun Dyfarnu Eglwysi Cyfeillgar i Blant ei greu i helpu eglwysi ystyried sut y maen nhw’n “croesawu ac yn cynnwys plant a’u teuluoedd ym mywyd addoli eu heglwys”.

Mae’r cynllun wedi’i gyflwyno i annog eglwysi i ystyried sut i osod plant a theuluoedd ar eu hagendâu a gweithio tuag at dargedau penodol.  Drwy hynny gallant dderbyn tystysgrif a dyfarniad i’w harddangos fel sy’n briodol.

Cynllun gwirfoddol yw hwn ac un digon ysgafn; felly dim ond un rhestr seml sydd i’w chwblhau gan dicio!  Fodd bynnag, nid ymarferiad i dicio’r blychau “ie” yn unig yw hwn.  Mae’n ymwneud yn fwy am gydnabod pwysigrwydd plant a phobl ifanc yn yr eglwys leol, a gwella’n barhaus y modd yr ydym yn eu croesawu ac yn gweinidogaethu gyda nhw.

Mae Tîm Plant yr Esgobaeth yn annog eglwysi i weithio tuag at y dyfarniad hwn.  Dyma blwyfi y gwyddwn eu bod wedi cychwyn ar y daith hon: 

  • San Pedr, Caerfyrddin
  • Hubberston, Aberdaugleddau

Os yw’ch plwyf eisiau gweithio tuag at y dyfarniad hwn, cysylltwch ag Alan Chadwick: alan.chadwick@hubberston.org.uk