Y TÎm Cyfathrebu
Mae Tîm Cyfathrebu’r Esgobaeth yn ymroddedig i raglen sy’n anelu at ysbrydoli diwylliant o gyfathrebu ar bob lefel ym mywyd yr eglwys. Fe wna hyn drwy gyfrwng nifer o sianelau gwahanol:
- papur newydd yr esgobaeth, Pobl Dewi, sy’n cael ei ddosbarthu dair gwaith y flwyddyn i eglwysi a chymunedau ledled gorllewin Cymru
- y wefan hon, sydd wedi’i chynllunio i fod yn ffenestr ar fywyd yr eglwys i ymwelwyr ac ymholwyr ac i fod yn ganolfan adnoddau i blwyfi
- ei uned ffilmiau, sy’n cynhyrchu DVDau fel Menter a Torri Tir Newydd
- cyrsiau hyfforddi mewn sgiliau fel darlledu, ysgrifennu datganiadau i’r wasg, ffotograffiaeth a golygu a dylunio cylchgronau plwyf
- cefnogaeth ar gyfer mentrau cyfathrebu lleol, o fewn plwyfi ac i estyn allan i’w cymunedau
- help i blwyfi wrth weithredu dull dynamig tuag at y broses Mentro Mewn Cenhadaeth – yn symbylu, yn addysgu ac yn darparu enghreifftiau bywyd go iawn ar sut y gellir mynd i’r afael â heriau Mentro gyda brwdfrydedd
- anogaeth i blwyfi gyfranogi’n ddychmygus mewn twristiaeth, gan ddarparu adnoddau i alluogi ymwelwyr i werthfawrogi treftadaeth gyfoethog Cristnogaeth Geltaidd
- Llawlyfr yr Esgobaeth, arweiniad i’r llu gweithgareddau gwahanol yn yr Eglwys yng ngorllewin Cymru
- Calendr Eiriolaeth yr Esgobaeth, sy’n darparu ffocws ar gyfer gweddi ddyddiol ac awgrymiadau ar gyfer myfyrio drwy gydol y flwyddyn, ac sy’n cysylltu’r Eglwys yng Nghymru â’r gymuned Gristnogol fyd-eang
- ’Swyddog Cyfathrebu’r Esgob, sy’n gweithredu fel man cyswllt ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau
- cydlynu presenoldeb yr Eglwys mewn digwyddiadau cyhoeddus amlwg, gan ddylunio a chyflenwi deunydd arddangos statig a dynamig a llenyddiaeth
- yn neilltuol, trefnu Catalydd, prif ddathliad Bywyd Cristnogol a gynhelir ar Faes Sioe Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn, 5ed Gorffennaf, 2008
Yn gyffredinol, mae’r Tîm yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus polisi cyfathrebu cydlynol o fewn yr esgobaeth, ac am wahodd plwyfi i fod yn rhan o bartneriaeth greadigol er mwyn ei wneud yn fyw.

