Llawlyfr Eciwmenaidd
Pleser yw cael cymeradwyo`r llawlyfr hwn. Fel disgyblion Crist fe`n gelwir i weithio dros undod corff Crist. Mae`r llawlyfr hwn yn adnodd tra gwerthfawr am sawl rheswm:
- Mae`n diffinio ecwmeniaeth yn glir iawn gan esbonio`r amrywiol sefydliadau ymbarel sy`n ceisio hybu Undod Cristnogol yng Nghymru.
- Mae`n trafod y fframwaith gyfreithiol sy`n hyrwyddo cydweithrediad rhwng y gwahanol enwadau. Ni ellir diystyrru hyn wrth i ni geisio cadw`n ffyddlon i`r traddodiad y perthynwn ni iddo tra`n rhannu gweinidogaeth a chenhadaeth gydag eraill
- Ceir amrywiaeth o destunau yn yr adran “ Cwesitynau Cyffredin”, all fod o gymorth ymarferol i weinidogion a chynulleidfaoedd.
- Tua diwedd y llawlyfr hwn cewch bennod ddefnyddiol iawn yn rhestru manylion cyswllt y prif enwadau yng Nghymru.

