Ecwmeniaeth a Chyfraith Ganonaidd
Mae cyfraith ganonaidd yr eglwys yn bodoli i hybu ac i amddiffyn ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth. Mae deddfwriaeth ddiweddar wedi ceisio tacluso sut yr ydym yn mynd i’r afael ag ecwmeniaeth yn gyfansoddiadol.
1. Perthynas ag eglwysi eraill
Mae Cyfrol II o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn rhestru’r canonau, a gyhoeddwyd fel canlyniad i gyflwyno mesur, sy’n sefydlu cysylltiadau rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac eglwysi eraill naill ai trwy gyd-gymundeb neu gymundeb llawn.
i) Cyd-gymundeb
Sefydlwyd cyd-gymundeb rhwng yr Eglwys yng Nghymru a phedair eglwys arall: yr Hen Gatholigion, Eglwys Annibynnol y Pilipinas, Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen a’r Eglwys Lwsitanaidd. Mae hyn yn golygu fod pob cyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth y llall; bod pob un yn cadw ei gatholigrwydd a’i annibyniaeth ei hun; a bod pob cyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r sacramentau. Nid yw cyd-gymuno yn gofyn gan y naill gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y ffydd Gristnogol.
ii) Cymundeb Llawn
Sefydlwyd Cymundeb Llawn rhwng yr Eglwys yng Nghymru a phum eglwys arall: Eglwys De India, Eglwys Gogledd India, Eglwys Pakistan; Eglwys Syriaidd Mar Thoma ac Eglwys Bangladesh. Mae Cymundeb Llawn yn golygu y gall cymunwyr o’r Eglwys yng Nghymru derbyn cymun ym mhob un o’r eglwysi a enwyd uchod ac fel arall. Yn ogystal, o fod dan oruchwyliaeth yr esgob cadeiriol, gall esgobion, presbyteriaid a diaconiaid Eglwysi’r ‘Cymundeb Llawn’ ymarfer eu gweinidogaeth yn litwrgi’r Eglwys yng Nghymru pan fyddant yn ymweld â Thalaith Cymru, ac fel arall.
2 Cyfreithiau Canonaidd 2004
Cymeradwyodd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ddau ganon newydd ym mis Ebrill 2005 i hybu’r berthynas rhwng yr Eglwys yng Nghymru a’r traddodiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Symudodd cyhoeddi’r Canonau newydd Ganon Prosiectau Ecwmenaidd Lleol 1991 o Gyfrol II o’r Cyfansoddiad yn awtomatig gan fod hwnnw wedi achosi tipyn o ddryswch am ei fod wedi ceisio rheoli nid yn unig sefydlu Prosiectau Ecwmenaidd Lleol ond hefyd gydweithredu ecwmenaidd mewn plwyfi nad oedd yn perthyn i Brosiectau Ecwmenaidd Lleol.
Mae’r cyntaf o’r Canonau I Gefnogi y Cyd-berthynas ag Eglwysi Eraill (a elwir yn Ganon Cyffredinol) yn rhoi modd i gefnogi gweithredu ecwmenaidd ym mhob plwyf: mae’r tri cyntaf o’r siartiau llif atodedig yn esbonio sut y mae’n gweithredu.
Mae’r ail o’r Canonau hyn, I Ganiatáu Sefydlu a Chefnogi Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol (a elwir yn Ganon Prosiectau Ecwmenaidd Lleol) yn darparu modd i ddwyn i fodolaeth a chefnogi Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol: mae’r pedwerydd o’r siartiau atodedig yn esbonio sut y mae’n gweithredu.
Mae’r allwedd i ddeall y Canonau newydd yn gorwedd mewn dwy ragdybiaeth sylfaenol:
- ymlyniad enwadol y gweinidog sy’n arwain neu’n llywyddu mewn gweithred o addoliad sydd yn penderfynu beth yw ‘label enwadol’ yr addoliad hwnnw. (Pan fo’n Gymun Bendigaid dylid cyhoeddi enw’r llywydd ar y Sul blaenorol.)
- Mae’r rheoliadau yn y Canon Cyffredinol yn ymwneud â gwahoddiadau i weinidogaethu – pwy y gellir ei (g)wahodd i wneud beth, a pha wahoddiadau y gall gweinidogion lleyg neu ordeiniedig yr Eglwys yng Nghymru eu derbyn.
Gwneir darpariaeth yn y Canon Cyffredinol hefyd i rannu adeiladau eglwysig mewn ffordd anffurfiol; mae’n rhaid gwneud rhannu mwy ffurfiol trwy gytundeb sy’n unol â Deddf Rhannu Adeiladau Eglwysig, 1969 (gweler t.16)
Pan fydd ecwmenyddion yn sôn am wrando ar y cyd, mae’n aml (onid yw) yn gyflwyniad i rywbeth arall (dadlau, trafod). Rydw i’n dyfalu, heb wybod beth y gallai hyn ei olygu yn ymarferol, onid ydym ni hefyd yn cael ein galw i roi i’n gilydd, fel cymunedau Cristnogol, yr urddas o fod yn ni ein hunain a chael ein gwerthfawrogi am hynny yn unig, gan gydnabod nad yw yr un gymuned na thraddodiad yn mynd i fedru mynegi na chyflwyno yr holl ystyron y gall athrawiaeth ac addoliad eu cyfleu i gredinwyr.
Rowan Williams

