Cysylltiadau o fewn prif Eglwysi ein Hesgobaeth
Mae Bedyddwyr Cymru yn olrhain eu hanes i Chwyldro Piwritanaidd y 17eg.ganrif. Mynnai Joshua Thomas, hanesydd cynnar yr enwad, fod yna Fedyddwyr yn nyffryn Olchon mor gynnar â 1633. Gorweddai Olchon tu mewn i ffiniau swydd Henffordd, ond yr oedd plwyf Clodock, y mae’r dyffryn yn rhan ohono, yn esgobaeth Tyddewi. Fodd bynnag, gydag enw John Myles y cysylltir sefydlu’r eglwys Fedyddiedig annibynnol gyntaf yng Nghymru, a hynny yn Ilston, bro Gwyr yn 1649. Sefydlwyd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1866, sydd erbyn heddiw ag adranau Cymraeg a Saesneg iddo. Does dim pob egwlys Fedyddiedig yng Nghymru yn perthyn i’r Undeb hwn gan i rai dewis ymaelodi ag Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon tra bod eraill wedi aros yn annibynnol.
Undeb Bedyddwyr Cymru
Ty Illston,
93-94 Stryd Mansel,
Abertawe SA1 5TZ
01792 655468
www.bedyddwyr-baptistwales.co.uk
Mudiad Eglwysi Bedyddiedig Annibynnol
Ty John Penry,
11 Stryd Sain Helen,
Abertawe SA1 4AL
01792 625542
Cred y Ffederasiwn Gynulleidfaol yng Nghymru taw annibyniaeth ac ymreolaeth yr eglwys leol ydy sail llywodaeth eglwysig. Y Diwygiad Protestanaidd esgorodd ar Gynulleidfaeth fodern, er na sefydlwyd Undeb tan 1832. Gwnaed hynny gan bwysleisio egwyddor graidd Cynulleidfaeth, sef ‘hawl ysgrythurol pob eglwys unigol i ddiogelu annibyniaeth gyflawn llywodraeth a gweinyddiad ei materion mewnol’. Saesneg ydy cyfrwng eu haddoliad bron yn ddi-eithiad; cadwent gysylltiadau agos ag eglwysi yr Annibynwyr Cymraeg.
Croslyn,
Spittal,
Hwlffordd SA62 5QT
01437 741260
www.haverfordwest.intexta.com/cfwales/news.html tabernacle@haverfordwest.freeserve.co.uk
Gyda John Wesley (1703-1791) y cysylltir sefydlu’r Eglwys Fethodistaidd. Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr ac yn 1738 cafodd brofiad ysbrydol a’i argyhoeddodd fod Duw ar waith yn ei galon. Cychwynodd ymgyrch bregethu tra dylanwadol a threfnodd ei gefnogwyr yn nifer o seiadau lleol. Wrth godi pregethwyr ac arweinwyr lleol daeth Methodistiaeth yn fudiad o bwys tu fewn i’r Eglwys Wladol nes i’r angen am offeiriaid ordeiniedig ei orfodi i dorri ei gwys ei hun a dod yn Eglwys arwahân erbyn dechrau’r 19eg.ganrif.
www.methodist.org.uk
www.aber.uk.net/methodist/ (Cylchdaith Cerdeigion)
www.carmarthenshire-methodists.org.uk (Cylchdaith Llanelli a Chaerfyrddin)
gareth.powell@ukonline.co.uk (Swyddog Ecwmenaidd)
Cymundeb o eglwysi ymlywodraethol ydy’r Eglwys Uniongred yn cydnabod goruchafiaeth anrhydeddus Patriarch Caergystennin a chyffes y saith Cyngor Ecwmenaidd (o Nicea 1, 327, hyd Nicea 11, 787). Yn hanesyddol datblygodd o’r Ymerodraeth Ddwyreiniol neu Fysantaidd ac mae’n cynnwys patriarchiaethau Alexandria, Antioch, Caergystennin, a Jerwsalem ynghyd ag Eglwysi Rwsia, Bwlgaria, Cyprus, Serbia, Georgia, Rwmania, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Albania a Tiecoslofacia. Mae iddi ddysgeidiaeth Drindodaidd gref a phwysleisia ddirgeledd a phwysigrwydd ei saith sacrament.
01554 755690 (Y Tad Luke)
occwales@yahoo.co.uk
Ganed Eglwys Brebyteraidd Cymru (Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd gynt) yng ngwres Diwygiad y 18fed.ganrif dan arweiniad dynion ysbrydoledig megis Daniel Rowlands, Howell Harris a William Williams. Er mai Eglwys ddwyieithog ydyw, Cymraeg ydy iaith addoli mwyafrif yr eglwysi. Cenhadaeth ymhlith yr ifanc ydy priod waith canolfan Coleg y Bala tra bod Coleg Trefeca yn ganolfan hyfforddi lleygwyr.
Capel y Tabernacl,
81 Heol Merthyr,
yr Eglwys Newydd,
Caerdydd CF14 1DD
www.ebcpcw.org.uk
swyddfa.office@ebcpcw.org.uk
Sefydlwyd Cymdeithas Grefyddol Y Cyfeillion gan George Fox ac eraill yn Lloegr ganol y 17eg.ganrif gan ymffurfio’n swyddogol yn 1667. Ar lafar gwlad caiff yr aelodau eu hadnabod fel ‘Crynwyr’, efallai oherwydd cyfarwyddyd Fox y dylent “grynu wrth air yr Arglwydd.” Yn eu cyfarfodydd, rhoddir pwyslais ar y goleuni mewnol a pharha’r Cyfeillion yn ddi-ddweud nes i’r Ysbryd eu cymell i lefaru. Symylrwydd ydy cywair eu holl weithgarwch. Fel diwygwyr brwd, pwysleisient oddefgarwch, cyfiawnder a heddwch. Hysbysebir manylion cyfarfodydd y Crynwyr ar eu gwefan.
Ty’r Cyfeillion,
173 Euston Road,
Llundain. NW1 2BJ
020 7663 1000
Fax 020 7663 1001
www.quaker.org.uk
Yr Eglwys Gatholig Rufeinig ydy’r enwad Cristnogol mwyaf (roedd rhagor nag 1 biliwn yn perthyn iddi yn 2005) yn cynnwys y Cristnogion hynny sy’n cydnabod goruchafiaeth awdurdod Esgob Rhufain, y Pab, ym materion ffydd. Rhan o Esgobaeth Menevia ydy’r Eglwys Gatholig Rufeinig yn Esgobaeth Tyddewi.
Swyddfa’r Curia,
27 Stryd y Cwfaint,
Greenhill,
Abertawe. SA1 2BX
01792 644017
www.dioceseofmenevia.org
Sefydlwyd Byddin yr Iachawdwriaeth gan William Booth yn Llundain yn 1865. Mae’n rhan annatod o’r Eglwys Gristnogol er bod ei threfn a’i harfer yn nodedig. Mae dysgeidiaeth y Fyddin yn unol ag uniongrededd Gristnogol ac mae ei chredo yn pwysleisio bwriadau achubol Duw.Ymhlith ei hamcanion mae “hyrwyddo’r grefydd Gristnogol…..addysg, dileu tlodi ac amcanion elusenol eraill er budd cymdeithasol neu’r ddynoliaeth yn gyffredinol”.
Aberystwyth:
2 Heol Alexandra,
Aberystwyth SY23 1LE
01970 625921
aberystwyth.corps@salvationarmy.org.uk
Rhydaman:
Stryd Marged,
Rhydaman SA18 2NW
01269 591443
Caerfyrddin:
109 Heol Awst,
Caerfyrddin SA31 3AP
01267 242978
Llanelli:
Teras Sunninghill,
Llanelli SA15 3DQ
Dinbych-y-Pysgod:
Upper Park Road,
Dinbych-y-Pysgod SA70 7LT
01834 843329
tenby.corps@salvationarmy.org.uk
I Chwyldro Piwritanaidd y 17eg.ganrif y mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn olrhain eu gwreiddiau hefyd. Sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn Llanfaches, sir Fynwy, yn 1639. Cymraeg ydy iaith addoliad mwyafrif yr eglwysi. Ar hyn o bryd mae’r enwad yn datblygu strategaeth genhadaeth gyda’r nôd o ddwyn gerbron raglen gyffroes, llawn dychymyg yn unol â’r 5 arwydd cenhadaeth. Yn haf 2004 cafwyd swyddfeydd newydd i’r enwad yng nghanol bwrlwm masnachol Parc Menter newydd Abertawe.
Ty John Penri,
Uned 5, Axis Court,
Parc Busnes Glanyrafon,
Abertawe SA7 0AJ
01792 795888
www.annibynwyr.org
delyth@annibynwyr.org
Ffurfiwyd yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig yn 1972 pan unwyd yr Eglwys Gynulleidfaol yn Lloegr a Chymru ac Eglwys Brebyteraidd Lloegr. Yn 1981 ymunodd ag Eglwysi Diwygiedig Crist ac yn 2000 ag Undeb Cynulleidfaol yr Alban. Ceir aml drafodaethau rhwng yr Eglwys Unedig ddiwygiedig a thraddodiadau eraill ac mae ganddi ragor na 400 o eglwysi lleol wedi uno ag enwadau eraill.
Synod Cenedlaethol Cymru,
Minster Road,
Y Rhath,
Caerdydd. CF23 5AS
029 20195728
www.urc.org.uk
moderator@urcwales.org.uk

