Ecwmeniaeth – Cyflwyniad
1. Beth yw Ecwmeniaeth?
Cyfeiria ecwmeniaeth (o`r Groeg am “holl bobloedd y ddaear”) at y mudiad hwnnw o fewn yr eglwys sy`n anelu at adfer undod canlynwyr Crist, gan ragori ar bob rhaniad o ran cred, arfer neu gyfundrefn.
2. Why is Ecumenism important?
Mae Ecwmeniaeth yn bwysig iawn am resymau sy`n seiliedig ar yr Ysgrythur, traddodiad, a rheswm / profiad.
-
-
Am i`n Haglwydd ddweud felly (e.e. Ioan 17:6-11; 1Corinthiaid.12:12-26)
- Am fod hanes yr eglwys yn dangos pa mor niweidiol y gall ymrannu fod.
- Am mai profiad yr eglwys yw fod undod yn arf nerthol wrth dystiolaethu a chenhadu.
3. Beth yw cefndir y Mudiad Ecwmenaidd?
Mae gwreiddiau`r dyhead ecwmenaidd i`w canfod yn glir yn y Testament Newydd, ond fel datblygiad diwinyddol cydnabyddedig, i`r ugeinfed ganrif y perthyna`r mudiad ei hun. Prif gerrig milltir y ganrif honno yw:
-
-
1925 Cynhadledd Fyd-eang Life and Work (yn trafod Cristgogaeth a chymdeithas.
- 1927 Cynhadledd y Byd Faith and Order (yn trafod diwinyddiaeth undod)
- 1948 Sefydlu Cyngor Eglwysi`r Byd (CEB) fel `cymdeithas o eglwysi sy`n derbyn ein Harglwydd Iesu Grist fel Duw a Gwaredwr` Cynhwysa hyn bob cyffes a thraddodiad prif ffrwd, ag eithrio`r Eglwys Gatholig Rufeinig a`r Eglwys Undodaidd.
- 1961 Croesawyd sylwebyddion Catholig Rhufeinig i CEB ac yn 1963 croesawyd eglwysi eraill i Ail Gyngor Fatican yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
4. Pa ran chwaraewyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn y Mudiad Ecwmenaidd?
Mae'r Eglwys yng Nghymru (Engh.) wedi bod yn ecwmenaidd weithgar ar sawl lefel.
Ar lefel fyd-eang:
-
-
Mae'r Engh. yn un o 326 aelod y CEB
Ar lefel Ewropeaidd:
- Mae'r Engh. yn aelod o'r Gynhadledd Eglwysi Ewropeaidd (CEE). Er 1959, dyma fu fframwaith ecwmenaidd eglwysi Uniongred, Anglicanaidd, Hen Gatholig a Phrotestanaidd Ewrop.
- Er 1992 rhoddodd Engh. ei chefnogaeth i Ddatganiad Meissen. Ymroddiad oedd hwn i `undod gweladwy cyflawn` ar ran Eglwys Loegr a Ffederasiwn yr Eglwysi Efengylaidd yn y Weriniaeth Ddemocrataidd Almeinig a`r Eglwysi Efengylaidd yn yr Almaen.
- Yn 1996 ymunodd yr Engh. â chytundeb Porvoo. Effaith hyn oedd sefydlu aelodaeth gyffredin a gweindogaeth a strwythur unigol a chyd-gyfnewidiol rhwng y bedair Eglwys Lutheraidd Nordig, y ddwy Eglwys Lutheraidd Baltig a phedair Eglwys Anglicainaidd yr Ynysoedd Prydeinig.
Ar lefel Brydeinig a Gwyddelig:
-
-
Mae’r Engh. yn aelod o Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain a’r Iwerddon (CTBI) a sefydlwyd yn 1990 ac sydd â 31 aelod. Fe’u hanogir “i werthfawrogi a gwrando ar eu gilydd yn eu holl amrywiaeth gan gynyddol rannu eu doniau a’u traddodiadau.”
Ar lefel Gymreig:
-
-
Arwyddodd yr Engh. Gyfamod Undod yn 1975 (>ENFYS) gan gysylltu’r Engh.,Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yr Eglwys Fethodistaidd (yng Nghymru), ac Eglwys Unedig Ddiwygiedig Lloegr a Chymru. Yn 1977 arwyddodd nifer o eglwysi Bedyddiedig unigol y Cyfamod. (Er 2005, mae’r Cyfamod Undod hwn – a adwaenid gynt fel ENFYS – wedi ymgartrefu tu fewn i CYTUN. Bellach fe’i hadwaeir fel Yr Eglwysi Cyfamodol tu fewn i GYTUN)
- Daeth yr Engh yn aelod o GYTUN (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) yn 1990. Cofleidia hwn fwyafrif yr Eglwysi Cristnogol yng Nghymru a cheir trafodaeth lawn arno yn y bennod nesaf.
Ceir amrywiaeth weithgarwch ar yr holl lefelau hyn ond ceisia bob un ohonynt:
-
-
Alluogi eglwysi i gydweithio’n a deall eu gilydd yn well.
- Alluogi eglwysi i gydaddoli a chydweddio.
- Alluogi eglwysi i gydsymud ar faterion ymarferol a chwestiynau cyfiawnder.
5. Beth ydy amcanion ecwmenaidd yr Eglwys yng Nghymru?
Penderfynodd yr Adran Ecwmenaidd Daleithiol yn 1999 fod iddi 5 nod:
-
-
Sicrhau fod yr Engh. yn cydweithio ag Eglwysi eraill ar bob mater ag eithrio’r rhai lle y’n gorfodir i weithredu ar wahan gan wahaniaethau argyhoeddiad sylweddol. (Egwyddor Lund)
- Meithrin ecwmeniaeth – trwy noddi mentrau lleol, gan gynnwys P.E.Ll., adolygu’r berthynas gyda Chatholigion Rhufeinig ar bob lefel a thrwy sicrhau penodiad Esgob Ecwmenaidd.
- Darganfod ffynonellau er cyllido cyfleoedd ecwmenaidd.
- Anfon dirprwywyr (yn arbennig rhai ifanc / lleyg) i ddigwyddiadau enwadol rhyngwladol
- Hyrwyddo cysylltiadau ag Eglwysi yn Ewrop a rhannau eraill y byd; hyfforddi ecwmenwyr yn ein Heglwys ni; arolygu dosbarthiad a maint cyfraniadau’r Engh i gyrff ecwmenaidd.
6. Sut mae’r Eglwys yng Nghymru yn annog ecwmeniaeth yn lleol?
Mae’r Engh. yn annog cydaddoli a chydweithio eglwysig mewn sawl ffordd:
Cydaddoli
-
-
Trwy groesawu Cristnogion o enwadau eraill i gydaddoli gyda ni a derbyn gwahoddiadau Eglwysi eraill i gydaddoli gyda nhw.
- Trwy’r cyfleoedd sy’n codi gyda’r Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol.
- Trwy rannu adeiladau (Deddf Rhannu Adeiladau Eglwysig, 1969)
- Trwy gyfamod lleol neu P.E.Ll lle bo hynny’n bosib (gweler pen 3 a 4)
Cydweithio
-
-
Trwy gydweithio ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, yn gydgenedlaethol, cenedlaethol a lleol – e.e. wrth ymateb i Cymru: Cymdeithas Foesol (CYTUN) a Diwethdra a Dyfodol Gwaith (CTBI)
7. Beth mae Esgobaeth Tyddewi yn ei wneud am ecwmenaeth?
Yn 1997 penodwyd Swyddog Ecwmenaidd cyntaf Esgobaeth Tyddewi gan yr Esgob.(DEO). Yn 2002, sefydlwyd y Tîm Ecwmenaidd Esgobaethol fel rhan o Dîm Rhyng-Eglwysig Cyngor Cenhadu a Gweithidogaeth yr Esgobaeth (DCMM). Mae’r tîm wrthi’n ystyried dyfodol ecwmeniaeth a’i rôl yn yr esgobaeth. Hyd yma mae wedi:
-
-
Gweddïo dros undod Eglwys Crist yn yr Esgobaeth.
- Cynrychioli’r Esgobaeth ar lefelau taleithiol a rhyngenwadol.
- Trefnu adolygiad yr Esgobaeth o gyfamod ENFYS
- Ymchwilio sut all Esgobaeth Tyddewi wella ei chysylltiadau ag eglwysi / enwadau eraill.
- Creu rhwydwaith o ffrindiau mewn eglwysi / enwadau eraill
- Cynnig cynngor ac annogaeth i eglwysi ar faterion ecwmenaidd.
Ffrwyth y DET yw’r llawlyfr hwn er mwyn cyflwyno i glerigwyr a phobl ein Hesgobaeth weithgawrch y mudiad ecwmenaidd yng Nghymru a thu hwnt, ac annog a hybu plwyfi wrth iddynt ymestyn eu cenhadaeth a’u gweinidogaeth yn y maes ecwmenaidd.
8. Sut allai ein plwyf wella ar ei gydweithrediad ecwmenaidd?
Sut allai ecwmeniaeth hybu cenhadaeth a gweinidogaeth y plwyf?
Gellir holi’r cwestiynau a ganlyn:
Oes yna eglwysi yn ein plwyf/ardal sy’n addoli ar y cyd? Sut batrwm sydd i hyn?
Da o beth yw mynegi ein hyndod mewn gwasanaethau sy wedi’u cyd-drefnu gan wahanol eglwsi. Buddiol hefyd yw addoli yn eglwysi’n gilydd – gan dynnu ar gynhysgaeth cyfoethog ac arferion addoliad y naill a’r llall – ac ehangu’n gweledigaeth bersonol yr un pryd.
Oes yna eglwysi yn eich plwyf sy’n manteisio ar y cyfle i fyfyrio a gweddïo ar y cyd?
Mae cyrff megis y Cymdeithasau Cenhadu ac achlysuron megis yr Wythnos Weddi dros Undod Cristnogol yn cynnig amryw o gyfleoedd i gydfyfyrio a chydweddio. Beth am sefydlu ar y cyd ragor o grwpiau gweddi a myfyrio – grwp astudiaeth Feiblaidd; grwp trafod; grwp gweddi. Unwaith eto, pan ddaw gwahanol draddodiadau a phobloedd ynghyd, ehangir ein gweledigaeth ac fe’n cyfoethogir trwy weld pethau o safbwynt amgenach.
Oes yna eglwysi yn eich plwyf sy’n cenhadu ar y cyd?
Un o’r cwestiynau pwysicaf a gododd o Gynhadledd y Trydydd Byd ar Ffydd a Threfn yn 1952 oedd “ Oni ddylai ein heglwysi holi eu hunain parthed eu brwdfrydedd dros ymgomio ag eglwysi eraill, a thros eu parodrwydd i weithredu ar y cyd ym mhob mater, ag eithrio pryd y’u gorfodir i weithredu arwahan gan wahaniaethau argyhoeddiad sylweddol?” Mewn geiriau eraill, er bod rhaid cydnabod y gwahaniaethau rhwng ein heglwysi, ceir amryw gyfleoedd lle gallwn rannu’n hadnoddau a gweithio gyda’n gilydd. Beth am ymuno ag eglwysi lleol eich ardal mewn prosiect cenhadol arbennig?
9. Sut mae ymdopi pan ymddengys y ffiniau a’r rhaniadau yn anorchfygol?
Daw hyn a ni at y “gwahaniaethau argyhoeddiad sylweddol” y sonia yr Egwyddor Lund amdanynt? Nid ar chwarae bach y cyfunir gwahaniaethau argyhoeddiad sylweddol. Does dim ateb hawdd. Wrth wynebu’r fath anhawsterau, fodd bynnag, mae’r Archesgob Rowan Williams yn cynnig ambell i gwestiwn defnyddiol (Open to Judgement DTL, 1994 t.105ym.)
-
-
Wrth i Bedr ymboeni’n ormodol am ffawd y Disgybl Annwyl yn Ioan 21, mae Iesu’n gofyn iddo: “Beth yw hynny i ti? Canlyn di fi.” Ydyn ni’n ymboeni’n ormodol ac yn treulio gormod o amser uwchben materion nad ydynt o’r pwys mwyaf?
- Pa mor eang yw ein gweledigaeth? Pa mor fawr yw ein Duw? Ai Duw sy’n achub ac yn cynnig bywyd i mi yn unig yw e? Ynteu Duw sy’n ymwneud â gwahanol bobl mewn ffyrdd unigryw a folwn? Oni allwn ymlawenhau fod eu Duw a’u heglwys nhw yn achub ac yn cynnig bywyd yn yr un modd?
- A digwydd bod gweledigaethau yn cystadlu, oni allwn gydnabod fod ffocws y fath weledigaethau yn ganolog i bawb? Yn achos Crsitnogaeth, Crist ddylai fod yn ganolog i bopeth yr ydym ac y gwnawn. Cyd â bod pob yr un ohonom yn wynebu’r ffordd hoono, gellir disgwyl i ryw fath ar wrthrychedd oresgyn.
- Wrth gydnabod yr awdurdod sydd yng Nghrist, fel y gwnawn fel Cristnogion, cydnabyddwn hefyd fod pob syniad a feddwn am Dduw ac am ein gilydd yn dod dan ei farn – mae e o hyd yn ein holi ac yn ein hatgoffa am y dirgeledd sydd wrth wraidd ein haddoliad a’n cenhadaeth.

