To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Menter ar ran Tim Ecwmeniadd Esgobaeth Tyddewi yw`r llawlyfr hwn er mwyn annog a hybu cydweithrediad agosach rhwng plwyfi`r Esgobaeth ac eglwysi eraill, fel y cyflawnwn ofynion yr Efengyl a thyfu`n effeithiolch ein cenhadaeth.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • A all ein Ficer weinyddu ym mhriodas ein merch yn yr Eglwys Fethodistaidd?
    • 0’r 1af Hydref, 1985 bu’n gyfreithiol i glerigwr yr Eglwys yng Nghymru weinyddu mewn gwasanaeth priodas mewn addoldy yng Nghymru heblaw'r Eglwys yng Nghymru, os cofrestrwyd yr addoldy hwn ar gyfer priodasau. Rhaid i’r clerigwr ar bob achlysur fod wedi ei drwyddedu gan yr Esgob i weinyddu mewn lle neu leoedd sy’n cynnwys yr adeilad arfaethedig; rhaid bod gan y clerigwr awdurdod i weinyddu yn yr adeilad dan sylw at ddibenion Deddf Priodasau 1979 neu raid i gofrestrydd fod yn bresennol (ni fyddai statws y clerigwr fel cofrestrydd ei hun a fyddai’n gymwys i weinyddu priodas yr Eglwys yng Nghymru mewn adeilad o eiddo’r Eglwys yng Nghymru yn berthnasol); rhaid iddo ddefnyddio ffurf ar wasanaeth a gymeradwywyd gan yr esgob; rhaid iddo fod wedi cael caniatâd yr ymddiriedolwyr, a rhaid iddo ofalu nad oes unrhyw rwystr yn y Gyfraith Ganon i briodas y pâr. Ni ddylai’r clerigwr ar unrhyw gyfrif ddefnyddio unrhyw ddefod o eiddo’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr.


      Gweler hefyd: Churches Together in Marriage: Pastoral Care of Inter-church Families (a rhagair yr Esgob Huw Jones) a gyhoeddwyd gan Eglwysi Ynghyd yn Lloegr (CTE) a CYTÛN (1994).
  • Bu’r Eglwysi yn ein pentref yn cydweithio yn dda ers peth amser. Teimlwn ein bod am i’n perthynas ddatblygu ymhellach. Sut allem ni wneud hyn mewn modd ffurfiol?
    • Dyma ddau bosibilrwydd:

      • Gallai Cyfamod lleol, a wneir yn ddefodol ac a gytunir yn gyhoeddus mewn gwasanaeth priodol, fod yn ysgogiad i broses fwy penodol a pharhaol o dyfu yn agosach at eich gilydd. Gallai fod yn gyfrwng priodol i eglwysi mewn ardaloedd lle datblygodd y berthynas ecwmenaidd y tu hwnt i’r pwynt a ragwelwyd yn y datganiad o Berthynas Ecwmenaidd Leol achlysurol - gall Tîm Ecwmenaidd yr Esgobaeth eich cynorthwyo i drafod y posibilrwydd hwn.
      • Prosiect Ecwmenaidd Lleol. Diffinnir hwn fel un sy’n bodoli “pan geir cytundeb ysgrifenedig ffurfiol sy’n effeithio ar y weinidogaeth, bywyd y gynulleidfa, adeiladau a / neu brosiectau cenhadu un neu fwy o enwadau; a chydnabyddiad o’r cytundeb hwnnw gan yr awdurdod sy’n cefnogi, a chan yr awdurdodau enwadol priodol”. Ceir pob math o Brosiectau Ecwmenaidd Lleol - gall Tîm Ecwmenaidd yr Esgobaeth eich cynorthwyo i drafod y posibilrwydd hwn.
  • Mae gan aelodau’r Eglwys Fethodistaidd leol broblemau mawr o ran eu haddoldy. A allwn roi gwahoddiad i’r aelodau ddefnyddio ein hadeilad ni, sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru?
    • Gwna’r Canon Cyffredinol ar dudalen 12 ddarpariaeth ar gyfer rhannu adeiladau yn anffurfiol.

      Yn fwy ffurfiol, gall dau neu fwy o’r enwadau a enwir yn y Ddeddf Rhannu Adeiladau Eglwysig 1989 wneud trefniadau a elwir yn Gytundebau Rhannu iddynt rannu adeilad eglwysig sy’n bodoli neu adeilad arfaethedig. Gwneir y cytundebau gan Gorff Cynrychiadol yr Eglwys yng Nghymru gyda chaniatâd yr Esgob, a’r periglor a’r wardeiniaid eglwys. Rhaid i gytundebau ddarparu ar gyfer rhwymedigaethau ariannol a rhwymedigaethau eraill y bobl dan sylw o ran rheoli’r adeilad. Gellir sefydlu Cydgyngor fel rhan o’r Cytundeb ac arno gynrychiolaeth gyfrannol dderbyniol o’r enwadau sydd a wnelont ag ef.

      Mae cytundebau rhannu yn ymwneud â rhannu defnydd o adeiladau, nid â rhannu addoliad. Er hynny, dylai’r amryfal gyfleoedd sydd yn bodoli erbyn hyn yn yr Eglwys yng Nghymru hwyluso cyflwyno cydaddoli, os yw’r enwadau sy’n cymryd rhan a’r Cydgyngor yn dymuno hynny.

      I gael rhagor o fanylion am adeiladau a rennir gweler Under One Roof: Guidelines to the Sharing of Church Buildings Act 1969 (Diwygiwyd 1994) Cyhoeddwyd gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain (CTBI) mewn cysylltiad ag Eglwysi Ynghyd yn Lloegr (CTE) a CYTÛN.

  • Symudodd teulu newydd i’n plwyf.  Bedyddwyr ydynt ac arferent addoli yn y Capel Bedyddwyr lleol yn eu plwyf blaenorol. Nid oes gennym Gapel Bedyddwyr yn ein pentref ni felly maent wedi dechrau addoli gyda ni ac maent yn hapus iawn yn ein heglwys. A ellir rhoi eu henwau ar ein cofrestr etholiadol?
    • Diwygiwyd Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ym mis Medi 1991 i ganiatáu i gymunwyr Eglwys nad ydynt yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru wneud cais am gael eu cynnwys ar y Gofrestr Etholiadol, gyda chaniatâd yr Esgob, gan roi iddynt hawliau a breintiau unrhyw aelod sydd â’i enw ar y gofrestr etholiadol.

Nid ymarferiad mewn diplomyddiaeth yw ymddiddan ecwmenaidd; unwaith y credwn hynny byddwn yn credu, os bydd unrhyw beth yn symud mewn gwirionedd yn y sefyllfa ddiddatrys hon, mai am i rywun wneud consesiwn, cyfaddawdu o ran egwyddorion, glastwreiddio’r gwirionedd y bydd hynny. Camargraff drychinebus yw hyn. Nid diplomyddiaeth yw gwir eciwmeniaeth: gweddïo a gwrando, ym mhresenoldeb Duw, gyda brodyr a chwiorydd yng Nghrist y mae damweiniau hanes wedi ein rhannu, a gofyn i Dduw sut y gallwn ddysgu gyda’n gilydd, yw.

Henry Chadwick