Cyrff Ecwmenaidd sy’n cwmpasu’r Eglwysi Yng Nghymru
a) CYTÛN: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
1. Beth yw CYTÛN?
Ffurfiwyd CYTÛN: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru ym 1990 ac mae’n uno mewn pererindod yr eglwysi hynny yng Nghymru sydd, gan arddel datguddiad Duw yng Nghrist, yn cyffesu yr Arglwydd Iesu Grist yn Arglwydd ac yn Waredwr yn ôl yr Ysgrythurau; ac mewn ufudd-dod i ewyllys Duw a gallu’r Ysbryd Glân yn ymrwymo I
- geisio dyfnhau eu cymundeb â Christ ac â’i gilydd yn yr Eglwys sy’n gorff iddo
- a cheisio cyflawni eu cenhadaeth i gyhoeddi’r Efengyl trwy dystiolaethu a gwasanaethu yn y byd ynghyd
er gogoniant yr un Duw, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
2. Beth y mae CYTÛN yn ei wneud?
Hysbysu … cysylltu … cyplysu … cyfarfod … cyhoeddi … cynrychioli … ymchwilio … uno
3. Pwy sy’n perthyn i CYTÛN?
Aelodau llawn: Undeb Bedyddwyr Cymru, Yr Eglwys yng Nghymru, Y Ffederasiwn Cynulleidfaol, Eglwysi Cyfamodol y Bedyddwyr (Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr), Eglwys Lutheraidd Almaeneg (ei hiaith) De Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion, Yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Byddin yr Iachawdwriaeth, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, YrEglwys Ddiwygiedig
Sylwedyddion: Eglwysi’r Mwyafrif Du yng Nghymru, Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Cyngor Lutheraidd Prydain Fawr, Eglwysi Uniongred, Adfentyddion y Seithfed Dydd
4. Pwy sy’n rheoli CYTÛN?
Cyngor o ymddiriedolwyr a benodir gan yr Eglwysi sy’n aelodau
5. Pwy yw’r ‘eglwysi cyfamodol y tu mewn i CYTÛN’ (ENFYS gynt)
Ar ôl ymgynghori â’i bartneriaid (Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Eglwysi Cyfamodol y Bedyddwyr, Yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Fethodistaidd Cymru) cytunodd Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru (a adnabyddir yn gyffredin fel ENFYS) yn 2005 i ailddatgan eu hymrwymiad i’w gilydd, i barhau i gyd-deithio mewn perthynas gyfamodol ac i fabwysiadu rhaglen chwe blynedd i ddatblygu ymhellach eu gwaith ynghyd ledled Cymru.
Gwahoddodd y Comisiwn yr eglwysi sy’n bartneriaid i fabwysiadu’r canlynol:
- I ailddatgan ymrwymiad i deithio gyda’i gilydd mewn perthynas gyfamodol
- I barhau’n ymrwymedig i nod y daith – undod gweladwy yr eglwys yn y modd y mae Crist yn ei ewyllysio
Fel partneriaid sydd wedi cyfamodi, y tu mewn i deulu CYTÛN, i ymrwymo yn ystod y cyfnod o chwe blynedd o 2005 i 2011 i:
- I rannu mwyfwy yng ngweinidogaeth ein gilydd, gan wneud y defnydd gorau posibl o ddarpariaethau pob eglwys;;
- I wneud pob gwaith newydd gyda’n gilydd os nad oes rhaid i ni, ar sail cydwybod, ei wneud ar wahân;
- Rhannu adnoddau er mwyn darparu tystiolaeth unedig i Gymru;
- Gwrando ar yr hyn y mae’r genedl yn ei ddweud wrth yr Eglwys.
Penderfynodd y Comisiwn hefyd newid enw swyddogol y bartneriaeth i Yr Eglwysi Cyfamodol y tu mewn i CYTÛN, i’w wneud yn hollol glir fod pob un o’r pum partner yn aelodau cyflawn o CYTÛN: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, ac wedi ymrwymo i weithio gydag eglwysi eraill drwy CYTÛN.
6 Sut rydw i’n cysylltu â CYTÛN?
58 Heol Richmond,
Caerdydd CF24 3UR
029 2046 4204
Ffacs 029 2045 5427
www.CYTÛN.org.uk
post@CYTÛN.org.uk
7 Ble mae CYTÛN yn weithgar yn yr Esgobaeth?
Mae’r canlynol yn grŵpiau CYTÛN y gwyddys amdanynt yn yr Esgobaeth:
Caerfyrddin
Jean Baker, Nantgwyn, Trawsmawr, Caerfyrddin SA33 6NA
Hwlffordd
Miss Susan Laws, 114 Haven Road, Hwlffordd, SA61 1DP
Aberdaugleddau
Mrs Jackie Davis, 10 Pontsfield Close, Hakin, Aberdaugleddau
Tyddewi
Elaine Morgan, Felin Wynt, Tyddewi, Sir Benfro SA62 6QS
b) Mudiad Efengylaidd Cymru
1. Beth yw Mudiad Efengylaidd Cymru?
Cymdeithas yw’r Mudiad o eglwysi ac unigolion sydd yn cynrychioli’r traddodiad efengylaidd diwygiedig, sydd yn derbyn yr Ysgrythurau Sanctaidd, fel y’u rhoddwyd yn wreiddiol fel gair anffaeledig Duw, a ysbrydolwyd ganddo, ac sydd yn eu harddel fel eu hunig awdurdod ym mhob peth sy’n perthyn i faterion o ffydd ac ymarweddiad.
2. Beth yw amcanion y mudiad?
Dechreuodd y Mudiad yn y 1940au er mwyn gwasanaethu’r rhai sy’n siarad Cymraeg a Saesneg. Mae MEC yn ceisio hybu efengyl Iesu Grist trwy genhadu. cyhoeddi, gwersylloedd, cynadleddau, cyrsiau a siopau llyfrau, ac yn cefnogi unigolion, gweinidogion, eglwysi a mudiadau sy’n rhannu’r amcan hwn.
3. Beth y mae’r Mudiad yn ei wneud?
Mae gweinidogaeth a chenhadaeth MEC yn estyn ar draws Cymru a thu hwnt. Mae ganddo Gyfarwyddwr Bugeiliol sydd yn teithio llawer i gynnig cefnogaeth, anogaeth a chyngor i Gristnogion ac eglwysi unigol.
4. Sut rydw i‘n cysylltu â Mudiad Efengylaidd Cymru?
Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4DX
01656 655886
www.evangelicalmvt-wales.org
office@evangelicalmvt-wales.org
c) CYNGOR YR EGLWYSI RHYDDION
1. Beth yw Cyngor yr Eglwysi Rhyddion?
Mae Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn cynrychioli’r enwadau Anghydffurfiol h]n: Eglwys Bresbyteraidd Cymru; Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; Undeb Bedyddwyr Cymru; Yr Eglwys Fethodistaidd; Byddin yr Iachawdwriaeth; Ffederasiwn yr Eglwysi Cynulleidfaol.
2. Sut rydw i’n cysylltu â Chyngor yr Eglwysi Rhyddion?
Cilfynydd, Llanberis, Gwynedd LL55 4BZ
01286 872390
John.cilfynydd@btinternet.com

