To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Gwefan Plant Dewi

 

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach am ein gwaith neu am wybodaeth ar sut i gymryd rhan gyda Phlant Dewi, cysylltwch â Sue Fletcher ar 01267 221551 neu ebostiwch.

Plant Dewi

– rhoi Ffydd ar Waith a meithrin cymuned fwy cynhwysol

Mae Tîm Datblygu Cymunedol Plant Dewi’n gweithio mewn plwyfi ledled yr Esgobaeth i rymuso pobl leol i ofalu mewn modd ymarferol am y teuluoedd, y plant a’r bobl ifanc o’u cwmpas.

Yr Esgob Carl yn agor canolfan deulu newydd yn Felinfoel, Llanelli – prosiect Plant Dewi

Yr Esgob Carl yn agor canolfan deulu newydd yn Felinfoel, Llanelli – prosiect Plant Dewi

Mae Cristnogion yn ymroddedig i ofalu am bob plentyn a phob person, i feithrin lles pob teulu ac i gryfhau cymunedau.  Mae Cariad Duw a gofalu am gymdogion yn mynd law yn llaw i siapio bywydau a chymunedau.

Yn y ffordd yma mae Plant Dewi’n cefnogi teuluoedd o grud i grud:

  • Rydym yn helpu teuluoedd dan straen ac yn meithrin perthnasoedd teuluol cadarnhaol.
  • Rydym yn creu rhwydwaith ofalgar o gyfeillgarwch a chefnogaeth drwy ddod â theuluoedd unig at ei gilydd yn adeiladau’r Eglwys.
  • Rydym yn cefnogi’r teuluoedd hynny sy’n anodd eu cyrraedd ac sy’n cael eu heithrio rhag defnyddio gwasanaethau.
  • Rydym yn annog tadau i chwarae rhan ymarferol ym mywydau eu plant ac i fwynhau bod yn Dad.
  • Rydym yn sefydlu canolfannau sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd neu fannau diogel i bobl ifanc gwrdd drwy annog ymddiriedaeth rhwng pobl a’i gilydd a grymuso cyfranogiad yn y gymuned.
  • Rydym yn gweithio mewn ysgolion gan ddarparu clybiau Cristnogol amser cinio.
  • Rydym yn cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan ymarferol yn eu cymunedau drwy greu, er enghraifft, prosiectau garddio a llochesi pobl ifanc..
  • Rydym yn gwrando ar bobl ifanc ac yn eu cefnogi yn y defnydd o dechnoleg i gynhyrchu fideos, DVDau neu slotiau radio i ganiatáu iddynt gyrraedd pobl ifanc eraill i drafod materion sy’n achos pryder yn eu bywydau.
  • Rydym yn cefnogi ieuenctid yn eu harddegau sy’n dod yn rhieni i fwynhau eu rôl ofalu newydd.

Nodweddir gwaith Plant Dewi gan gydraddoldeb i bawb, yn gwasanaethu anghenion cymunedau lleol ac yn adeiladu perthnasoedd iach a hirhoedlog rhwng unigolion, grwpiau, cymunedau ac yn wir yr esgobaeth gyfan

Esgob Carl, Adroddiad Blynyddol, Plant Dewi