To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Cyswllt

Am ragor o wybodaeth am y Grŵp Cenhadaeth Fyd-Eang, neu am fanylion y gwahanol Asiantaethau Cenhadol sy’n cael eu cefnogi o fewn yr Esgobaeth (nad ydynt efallai wedi eu cynnwys ar y wefan hon), cysylltwch â Chadeirydd Grwp Cenhadaeth Fyd-eang yr Esgobaeth:

Cadeirydd Grwp Cenhadaeth Fyd-eang yr Esgobaeth

Y Parchg Ann Howells,
Y Ficerdy, 77 Heol y Brenin,
Llandybie,
Rhydaman SA18 2TL
01269 850337
ann.howells1@tesco.net

Ann Howells

DIGWYDDIADAU

Cynhadledd Breswyl CMS Cymru

Amser cinio Dydd Gwener 15 Gorffennaf i Amser te Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2011 yn Hebron Hall, Dinas Powys CF64 4YB

Astudiaethau beiblaidd gan y Parch. Roger Bowen.

Siaradwyr: Ram Prasad Shrestha (Nepal) a Meg Merrifield (Kenya). Cost £75.

Rhagor o fanylion a ffurflen i archebu lle oddi wrth:

Dr Val Major

v.major1@ntlworld.com

029 2031 3492.

 

 

Cenhadaeth fyd-eang

Mae amrywiaeth gyfoethog o ddulliau y gall plwyfi o bob maint chwarae eu rhan fel aelodau o’r Eglwys fyd-eang, a thrwy hynny gael eu cyfoethogi a’u herio yn eu ffydd a’u gweinidogaeth eu hunain.

candles being placed on world map

Pobl Cyswllt y Genhadaeth Fyd-eang

Mae’r Grŵp Cenhadaeth Fyd-eang yn Esgobaeth Tyddewi wedi gwahodd pob plwyf (neu Fywoliaeth) i enwebu un person o’u cynulleidfa i fod yn Gyswllt y Genhadaeth Fyd-eang.  Mewn ymgynghoriad gyda’r Ficer/yr Offeiriad â Gofal, gwaith y Person Cyswllt yw meithrin a hyrwyddo cysylltiadau rhwng y plwyf a rhyw agwedd o’r eglwys fyd-eang.  Gallai hyn gynnwys:

  • Dyfeisio a chynllunio, yn weddigar, strategaeth Cenhadaeth Fyd-eang gyda’r Cyngor Plwyf
  • Cysylltu â’r Asiantaeth Genhadu a ddewiswyd a chynnal y cysylltiad hwnnw
  • Bod ar restr llythyru/ cofrestru diddordeb ebost i dderbyn newyddion a chyhoeddiadau rheolaidd ganddyn nhw
  • Bwydo gwybodaeth yn ôl i’w defnyddio mewn cylchgronau plwyf, eiriolaeth, ac ati
  • Defnyddio deunydd arddangos i roi gwybodaeth i gynulleidfaoedd
  • Trefnu digwyddiadau i addysgu, hysbysu a chodi arian ar gyfer asiantaethau/prosiectau cenhadol
  • Awgrymu defnyddio adnoddau a ddaw gan yr Asiantaeth Genhadol (gweler isod)
  • Cyfathrebu gyda Phartneriaid/arweinyddion Prosiect Cyswllt y Genhadaeth a throsglwyddo newyddion

Cynulliadau o Bobl Cyswllt y Genhadaeth Fyd-eang

O bryd i'w gilydd rydym yn gwahodd Pobl Cyswllt y Genhadaeth Fyd-eang i fynychu cyfarfod o fewn pob Archddiaconiaeth.  Mae’r rhain wedi bod yn achlysuron gwerthfawr ar gyfer cyfnewid syniadau, cael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, a chanfod sut y gall plwyfi elwa yn sgîl cael cysylltiadau â’r eglwys fyd-eang.

Dyma rai enghreifftiau o’r adnoddau sydd ar gael gan y rhan fwyaf o Asiantaethau Cenhadol:

  • Defnydd ar gyfer grwpiau astudio (e.e. cyrsiau Garawys)
  • Cyfleoedd i bobl gael profiad tramor tymor byr (rhwng pythefnos a chwe mis)
  • Gwybodaeth am ddod yn bartner cenhadaeth tymor hir
  • Adnoddau ar gyfer gwaith plant, ysgolion a grwpiau ieuenctid
  • Syniadau ymarferol ar gyfer codi arian (e.e. ailgylchu cetrysau inc, casglu stampiau ac ati)
  • Syniadau ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol fyddai’n denu y tu hwnt i’r eglwys (Parti Cyri Mawr USPG)
  • Syniadau ar gyfer gwasanaethau arbennig o bob cwr o’r byd (Diolchgarwch, Adfent ac ati)
  • Syniadau litwrgaidd i roi themâu ‘eglwys y byd’ i unrhyw wasanaeth
  • Syniadau am gefnogi prosiectau/personél dramor i gyd-fynd â gwahanol gyllidebau
  • Llyfrau, deunydd astudiaeth Feiblaidd personol, CDau, DVDau ac ati
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn Heriau (cerdded, beicio, dringo) i godi arian (e.e. gyda CMS, taith i ddringo Mynydd Kenya a dringo Pen y Fan gyda Chenhadaeth y Gwahanglwyf)