To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Cyswllt:

Canon Jo Penberthy
Warden Darllenwyr
Y Ficerdy
LLANWRDA
SA19 8HD
Jo.Penberthy@care4free.net

Hyfforddiant Darllenwyr

Mae Darllenydd Lleyg yn ymarfer gweinidogaeth o bregethu ac addysgu o fewn cyd-destun addoliad, yn aml heb fod yn gymunol.  Maen nhw hefyd yn gallu ymestyn y weinidogaeth hon mewn ffyrdd eraill fel y mae eu cyd-destun yn ei ganiatáu.  Mae rhai Darllenwyr hefyd wedi’u hawdurdodi i arwain angladdau, yn dilyn dethol a hyfforddiant priodol.

Cymdeithas Darllenwyr Anrhydeddus yr Esgobaeth

Mae Darllenydd Lleyg yn aelod gwirfoddol o Dîm y Weinidogaeth sy’n gallu, gyda thrwydded Esgob:

  • Cynnal Gweddïau Boreol a Hwyrol, darllen Gweinidogaeth y Gair yn y Cymun a phregethu yn y gwasanaethau hyn.
  • Gwneud gwaith bugeiliol ac addysgol y gall eich Periglor eich cynnwys ynddo,
  • ….ac ar ben hyn, mae’ch trwydded yn rhoi’r hawl i chi Gyhoeddi Gostegion Priodas, ac i dderbyn yr Offrwm

Y Broses Ddethol 

Dylai’r bobl sydd â diddordeb mewn bod yn Ddarllenydd Lleyg drafod hyn yn gyntaf gyda’u Periglor, ac ar ôl hynny, os ydynt am fynd yn eu blaenau, dylent gysylltu â’r Canon Jo Penberthy yn y cyfeiriad sydd ar frig y dudalen hon.
Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus bydd yr ymgeisydd sydd am fod yn Ddarllenydd Lleyg wedyn yn dilyn trefn ddethol sy’n cynnwys:

  • Trafodaeth gydag ymgynghorydd galwedigaethau’r Ddeoniaeth
  • Ymgynghoriad gyda darllenydd sy’n gweithio yn yr Archddiaconiaeth
  • Cyfweliad gan y panel dethol, fydd yn penderfynu a yw’r ymgeisydd yn llwyddiannus

Mae hyfforddiant diwinyddol i ddarllenwyr lleyg yn golygu dilyn cwrs sy’n arwain at Dystysgrif mewn Diwinyddiaeth naill ai o Brifysgol Bangor neu o Goleg Mihangel Sant Caerdydd.  Dyma fanylion y cyrsiau:

Cwrs Bangor:

12 modwl gyda chredyd o 10 pwynt yr un, yn rhoi cyfanswm o 120 credyd (yr uchafswm) dros gyfnod o dair blynedd.  Mae 6 modwl yn cael eu cynnal fel dysgu o bell a’r 6 modwl arall yn cael eu cyflwyno mewn 6 chwrs preswyl dwy noson.

Cwrs Mihangel Sant:

Sef 6 modwl o 20 credyd yr un, yn cael eu cyflwyno mewn cyrsiau preswyl yng Nghaerdydd, a dosbarthiadau nos yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, dros gyfnod o ddwy flynedd, unwaith eto’n arwain at uchafswm o 120 credyd.

Gweinidogaethu mewn Profedigaeth

Mae darllenydd trwyddedig yn cael y cyfle i astudio modwl hyfforddi Gweinidogaethu mewn Profedigaeth fydd yn arwain, o’i gwblhau’n llwyddiannus, at gyhoeddi trwydded Esgob i’w galluogi i weinyddu mewn angladdau.