Galwedigaethau
Mae’r eglwys Anglicanaidd yn Esgobaeth Tyddewi’n gymuned Gristnogol sy’n ceisio gwasanaethu.
Mae angen dilynwyr ffordd Crist arnom i fod yn Wasanaethwyr- Gwasanaethwyr dros Grist
- Gwasanaethwyr dros ei Eglwys
- Gwasanaethwyr dros ei bobl
Mae Duw’n galw ei holl bobl i wasanaeth Cristnogol.
Beth yw eich galwad penodol chi?
Efallai bod rhywun eisoes wedi gwneud sylw am sgil penodol o’ch eiddo y gallai Duw ei ddefnyddio yn ei eglwys.
Mae ar Dyddewi angen Cristnogion i wasanaethu fel:
- Presenoldeb yn y gweithle
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Swyddogion Eglwysig
- Cynorthwywyr Cymunol
- Partneriaid Gweddi
- Darllenwyr Llithiau ac Eiriolwyr mewn addoliad
- Arweinwyr Addoliad
- Cerddorion
- Darllenwyr Lleyg
- Gweithwyr Plant ac Ieuenctid
- Gweinidogaeth mewn cyd-destun dwyieithog
- Offeiriaid (Digyflog)
- Offeiriaid (Cyflogedig)
Beth nesa’?
Os hoffech chi gwrdd â rhywun i drafod galwad Duw yn eich bywyd, siaradwch â’ch Ficer a chysylltwch ag ymgynghorydd galwedigaethau.
Treuliwch amser yn gweddïo am yr hyn rydych yn ei feddwl a’i deimlo. Siaradwch â chyfaill rydych yn ymddiried ynddo/i. Gofynnwch i bobl eraill weddïo drosoch – a gyda chi.

