Mentro mewn Cenhadaeth
- Ymrwymwn i adeiladu:
- Eglwys sy’n mentro
- Eglwys Gatholig sy`n canolbwyntio ar y lleol
- Eglwys sy’n addoli
- Eglwys sy’n gwasanaethu
- Eglwys sy’n efengylu
- Eglwys sy’n cydweithredu
- Eglwys sy’n cydweithio
Yn 2005 ymrwymodd esgobaeth Tyddewi i Fentro mewn Cenhadaeth. Yn 2006, cynhaliwyd gwasanaethau ar draws y tair archddiaconiaeth lle bu plwyfi’n cyflwyno eu cynlluniau eu hunain ar gyfer mentro i’r Esgob.
Cyn y gwasanaethau hyn roedd llawer iawn o feddwl, gweddïo a myfyrio wedi digwydd. Roedd staff yr Esgob wedi eu holi eu hunain beth fyddai’n symbylu twf ac yn galluogi eglwysi i ofyn y math iawn o gwestiynau am eu bywydau eu hunain ac am eu cymunedau. Roedd gwahaniaethau diwylliant, iaith a daearyddiaeth yn golygu nad oedd un templed yn unig yn briodol - dim agwedd ‘un maint i bawb’. Ond yn hytrach, dan 5 pennawd, gallai eglwysi fynd i’r afael â rhai materion sylfaenol am eu blaenoriaethau a’u dyheadau.
Mae pob eglwys neu blwyf wedi cwblhau Cynllun Gweithredu Mentro mewn Cenhadaeth. Nid yw’r 5 pennawd wedi’u blaenoriaethu ac nid oes dilyniant o anghenraid, ond yn hytrach maen nhw’n disgrifio meysydd arwyddocaol:
- Addoliad
- Gwasanaeth
- Efengylu
- Cydweithredu
- Cydweithio
Mae mentrau newydd yn ymddangos sydd wedi rhoi ysgogiad a hyder i gynulleidfaoedd. O bryd i’w gilydd bydd timoedd newydd yn dod gyda’r mentrau hyn a ffyrdd gwahanol o weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo Teyrnas Dduw.
Cafodd yr esgobaeth hwb pellach pan lansiodd DVD yn 2007 o’r enw ‘Torri Tir Newydd’. Gan ddefnyddio geiriau’r weddi Mentro mewn Cenhadaeth, cafodd hwn ei gynllunio i roi enghreifftiau pendant o beth roedd eraill wedi’i geisio’i wneud a rhoi caniatâd iddyn nhw geisio gwneud rhai pethau newydd eu hunain.
Mae gweddi Mentro mewn Cenhadaeth yn mynd â ni i galon yr hyn a gredwn y mae Duw’n ein galw i’w wneud ac i fod. Rydym yn gwybod y bydd cynlluniau a mentrau bob amser yn dibynnu ar ansawdd bywyd a bod yn ddisgybl yn yr esgobaeth. Gweddïwn felly:
Dduw ein Tad, sydd bob amser y tu cefn i ni;
Dduw y Mab, sydd bob amser wrth ein hochr ni;
Dduw yr Ysbryd Glân, sydd bob amser o`n blaen ni;
tawela ein hofnau ac adnewydda ein ffydd,
fel, gyda thi, y gallwn fentro
torri tir newydd, meiddio arbrofi
a hyrwyddo dy genhadaeth di yn yr esgobaeth hon,
er mawl a gogoniant i ti.

