Buddsoddi mewn Cenhadaeth
Mae Buddsoddi mewn Cenhadaeth yn ymwneud ag adeiladu eglwys sy’n rhoddi
Mae’r tîm Buddsoddi mewn Cenhadaeth wedi bod yn gweithio am beth amser i ddod o hyd i fenter a’i ddatblygu ar gyfer yr esgobaeth i wella’i sefyllfa ariannol. Cred y Tîm y dylai eglwys fyw gael ei chefnogi gan ei haelodau byw ac ni ddylai ddibynnu ar ffioedd ac ar gyfraniadau cenedlaethau’r gorffennol. Mae’r tîm yn bodoli i helpu ac i gefnogi’r esgobaeth wrth ddod yn hunangynhaliol yn ariannol er mwyn ei galluogi i gwrdd â’r heriau sy’n cael eu gosod gan “Fentro mewn Cenhadaeth”.
Mae ymchwil ar ran y tîm wedi canfod fod y cynllun “Swyddog Rhoddi’r Plwyf” yn dangos y potensial i gynyddu ac i gynnal cynnydd mewn rhoddi gan blwyfi dros nifer o flynyddoedd. Gall rôl Swyddog Rhoddi’r plwyf gynnwys:
- Sicrhau bod yr eglwys yn addysgu’n rheolaidd ar faterion rhoddi a stiwardiaeth
- Arwain y gwaith o drefnu adnewyddu addewidion stiwardiaeth yn flynyddol
- Hyrwyddo rhoddi Cristnogol drwy erthyglau mewn cylchgronau, dosbarthu taflenni, ac ati.
- Annog trethdalwyr i roi yn dreth effeithlon drwy Gymorth Rhodd ac ati.
- Sicrhau fod yr eglwys yn diolch i bobl am eu cyfraniadau o leiaf unwaith y flwyddyn.
- Helpu trigolion lleol ac ymwelwyr achlysurol i roi yn effeithiol
- Bod yn bwynt cyswllt i’r plwyf gyda thîm Buddsoddi mewn Cenhadaeth yr Esgobaeth.
- Adrodd y gyllideb, esbonio beth yw’r anghenion, a’r posibiliadau sy’n codi yn sgîl cynnydd mewn rhoddi.
Mae’r tîm yn bwriadu datblygu rhwydwaith o Swyddogion Rhoddi Plwyf yn Esgobaeth Tyddewi er mwyn
- Cael rhywun ym mhob plwyf neu fywoliaeth fydd yn hyrwyddo rhoddi ac yn codi mater stiwardiaeth er mwyn iddo ddod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd yr eglwys.
- cael cyswllt gyda grŵp o bobl allai gael eu cefnogi ac y gellid darparu adnoddau ar eu cyfer yn haws gan dîm Buddsoddi mewn Cenhadaeth yr Esgobaeth.
Mae’r cynllun Swyddog Rhoddi’r Plwyf wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus yn Eglwys Loegr ers yn gynnar yn y 1990au – dros ddeng mlynedd yn esgobaeth Sheffield – a gobaith y tîm yw y gellir adlewyrchu’r llwyddiant hwn yn Esgobaeth Tyddewi.

