To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

Darllenwch ein canllawiau ar Anfon Lluniau at Pobl Dewi

Anfonwch luniau ar gyfer Pobl Dewi at pobldewi@tiscali.co.uk, ond defnyddiwch y cyfeiriad ebost isod i gysylltu â’r Golygydd.

Golygyddion Pobl Dewi

editorpd@churchinwales.org.uk

  • Ms Tessa Briggs
    • Y Gilan, Dolybont, Borth, SY24 5LX
  • Y Parchg Nicholas Cale
    • Y Ficerdy, Wiston, Hwlffordd SA62 6EP
  • Y Parchg Don MacGregor
    • Y Ficerdy, Stryd Fawr, Abergwaun SA65 9AU

pobl Dewi

Pobl Dewi yw papur newydd yr esgobaeth.  Cafodd ei lansio yn 2004 ac fe’i cyhoeddir dair gwaith y flwyddyn.  Mae detholiad o erthyglau o’r rhifyn cyfredol yn cael eu gosod ar y wefan yn dilyn pob cyhoeddiad.

Amcanion Pobl Dewi yw:

  • Bod yn ffenest siop i’r esgobaeth
  • Hwyluso trafod materion pwysig yn yr eglwys a’r gymdeithas
  • Rhannu arfer da
  • Annog hunaniaeth a chyfeillach yn yr esgobaeth

Cyhoeddir erthyglau yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Ceir crynodeb yn Saesneg gyda’r erthyglau Cymraeg, a’n nod yw cyhoeddi cyfieithiadau o erthyglau pwysig ar y wefan.

Mae tîm golygyddol o bedwar, sy’n cymryd eu tro i fod yn brif olygydd, fel rhan o Dîm Cyfathrebu’r Esgobaeth.  Dylid anfon erthyglau at Swyddfa’r Esgobaeth.  Mae’r golygyddion yn cadw’r hawl i olygu.  Mae croeso bob amser i luniau o ansawdd da.

Rydym yn croesawu cyfraniadau i Bobl Dewi bob amser ar ffurf straeon hyd at 400 gair – gyda lluniau os yn bosib – neu yn syml, wybodaeth am ddigwyddiadau arwyddocaol neu bobl ddiddorol.  Gallwch gysylltu â’r Golygydd ar Ddyletswydd ar editorpd@churchinwales.org.uk neu drwy’r post at:
Pobl Dewi,
Swyddfa Esgobaeth Tyddewi,
Abergwili,
Caerfyrddin, SA31 2JG.