Adroddiad Enid Morgan ar drafodaeth fywiog
Menywod mewn Eglwys a Chymdeithas
40 munud yn unig a roddwyd i dair gwraig drafod lle gwragedd mewn byd ac eglwys. Daeth criw da i wrando ar Eluned Morgan, Aelod o Senedd Ewrop, y Farwnes Ilora Finlay sy’n aelod o Dŷr Arglwyddi a’r Parchedig Ganon Enid Morgan a fu am gyfnod yn gyfrifol am Fwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru.
Siaradodd Eluned Morgan am y cynnydd sylwddol yn y nifer o wragedd yn y Senedd yn Llundain, Brwsel a Chaerdydd wrth i’r Blaid Lafur fynnu cydwysedd mewn rhestrau ethol. Bu anhawsterau a cholledion oherwydd y polisi ond dyna oedd y pris am sicrhau na chollid doniau gwragedd. Barn Eluned oedd bod yn rhaid wrth gamau pendant, fel gosod cyfartaledd nifer, er mwyn gweithredu egwyddor a newid teimlad a naws unrhyw sefydliad. Yr oedd yn amlwg ei bod hi’n ymfalchio bod y cyfartaledd gwragedd yn Senedd Cymru bellach yn uwch nag yn unrhyw wlad arall – er i’r cyfartaledd fod yn isel iawn am flynyddoedd.
Siaradodd Ilora Finlay, sy’n arbennigwr ar ofal lliniaru i gleifion nad oes gwella iddynt, yn ddwys ac argyhoeddiedig iawn. Yr oedd hi’n gwrthwynebu unrhyw gam i alluogi pobi roi terfyn ar eu bywydau a’u dioddefaint. Credai hi y byddai hawl o’r fath yn tanseilio’r berthynas rhwng meddyg a’r claf, a rhwng cleifion a’u teuluoedd hefyd. Ni chredai hi fod euthanasia, marw da, yn ddigrifiad priodol o beth fyddai’n digwydd pe bai modd dwyn oes i ben cyn ei bryd. Byddai ymyrryd yn y ddeddf bresennol i ddilyn yr hyn a ganiateid yn yr Iseldiroedd neu’r Swsidir yn gamsyniad mawr.
Yr oedd yn drueni na cheid mwy o amser i drafod y pwnc hwn gan fod y gynulleidfa yn ysu i godi pwyntiau ar sail ei sgwrs fer ond awdurdodol.
Siaradodd Enid am le allweddol y gwragedd yn yr eglwys, a hynny yn sgil y penderfyniad i beidio ag ordeinio gwragedd yn esgobion. Yr oedd hi’n teimlo bod cyfle wedi ei golli i gamu ymlaen ar yr egwyddor o dderbyn gwraig. Buasem yn dilyn esiampl yr eglwysi Anglicanaidd yn yr Iwerddon ac yn yr Alban wrth wneud hynny. Mae’r egwyddor wedi ei phasio yno, er nad oes gwraig yn esgob eto. Pan fyddai gwraig gymwys yn cael ei henwi, ni fyddai angen trafod pellach ar yr egwyddor. Y perygl nawr yng Nghymru fyddai drysu rhwng yr egwyddor a chymhwyster gwragedd unigol. Soniodd hefyd am bwysigrwydd magu mwy o blwc ymhlith gwragedd yn y plwyfi i gymeryd cyfrifoldebau cyhoeddus, efallai yn arbennig ymhlith y Cymry Cymraeg.

