To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

GWASANAETH IEUENCTID: Addoliad Amlgyfrwng

Dyfrig Lloyd

NÔL yn mis Medi, yn eglwys St Pedr, Llambed, cynhaliwyd Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer Archddiaconiaeth Ceredigion gan Dîm Ieuenctid yr Esgobaeth. Bwriad y gwasanaeth oedd denu ieuenctid ein heglwysi ynghyd mewn un lleoliad i addoli ac i gymdeithasu ar y cyd. Dyma’r tro cyntaf i rywbeth o’r fath gael ei gynnal ar lefel arddiaconiaethol, ac am hynny yr oedd llawer o bryder gennym fel y Tîm Ieuenctid ynglyn â’r niferoedd a fuasai’n mynychu, ond ni chawsom siom. Ar noson braf ym mis Medi, daeth tyrfa o bobl ifanc, rhieni ac aelodau eglwysi’r cylch ynghyd; o bob oedran ac o wahanol ardaloedd yn yr archddiaconiaeth. Er bod y mwyafrif yno yn anghyfarwydd ag eglwys St Pedr, a heb fod yn adnabod ei gilydd, eto, yr oedd naws deuluol ac awyrgylch hwylus a chyfroes yn perthyn i’r digwyddiad.

Gwasanaeth Cymun Bendigaid ydoedd, ond braidd yn wahanol i’r arfer, gan iddo gael ei gynllunio gyda phobl ifanc mewn golwg. Trwy ddefnyddio sgrîn a thaflunydd yr oeddem yn medru cyfuno agweddau o ddwylliant ieuenctid ein dydd, ei ddelweddau a’i gerddoriaeth a’u gwneud yn rhan annatod o’r addoliad. Y syniad tu ôl i hyn oedd gwneud dolen gyswyllt rhwng bywyd pob dydd a’n bywydau o ffydd, ac i gynorthwyo’r ieuenctid i weld nad rhywbeth i’r cenhedlaethau a fu yw Cristnogaeth, ond rywbeth sy’n bethnasol i’w bywydau, ac sydd â rhywbeth allweddol i gynnig i fywyd cyfoes. Datblygwyd y gwasanaeth o amgylch y cwestiwn a ofynnodd Iesu i’w ddisgyblion; “Pwy meddwch chwi ydwyf fi?”, ac ymateb Pedr, “Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw.” (Mathew 16: 15-16). Yr oedd yr holl wasanaeth yn ymchwiliad ac esboniad o’r cwestiwn hwn, ac wrth gwrs yr her sydd ynglwm ag ef.

Ar ôl y gwasanaeth cafwyd amser i gymdeithasu â’n gilydd drwy rannu lluniaeth ysgafn. Cyfle i’r Tîm Ieuenctid gwrdd â phobl ifanc yr Archddiaconiaeth, a hefyd iddynt hwy gyfarfod a dod i adnabod ei gilydd. Yn sgîl llwyddiant y gwasanaeth hwn, gobeithir cynnal rywbeth tebyg yn y dyfodol agos! Cadwch eich llygaid ar agor am fanylion!

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i’r fenter hon; i bawb a gefnogodd trwy fynychu’r gwasanaeth, i eglwys St Pedr am gael ddefnyddio’r eglwys; i aelodau’r Clwb Nos Lun am ddarparu’r lluniaeth, ac i aelodau Tîm Ieuenctid yr Esgobaeth am eu cefnogaeth a’u cymorth ymarferol ar yr ochr dechnolegol.