THE PLAYING OF THE MERRY ORGAN
Harri Williams
Yn ystod yr ail benwythnos ym mis Medi, cynhaliwyd Gŵyl Cyfeillion Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Fe wnaeth 90 o’r cyfeillion ymgynnull ar gyfer yr Ŵyl. Dechreuodd yr Ŵyl gyda’r cyfarfod blynyddol, cafwyd adroddiadau gan: y Ddeon, y Tra Pharchedig J. Wyn Evans, a’r Ysgrifennydd, Mr Harri Williams. Bu’r adroddiadau yn sôn am y digwyddiadau ym mywyd yr Eglwys Gadeiriol a’r prosiectau niferus sy’n derbyn cynhorthwy ariannol oddi wrth y Gyfeillion. Dathlwyd yn arbennig sefydliad tri ysgoloriaeth gorawl yn ystod y flwyddyn hon.
Y mae nifer o Eglwysi Cadeiriol ar draws Prydain yn cynnig ysgoloriaethau corawl er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i’r sefydliad cerddorol. Ar ôl proses o hysbysebu a chyfweliadau, dyfarnwyd yr ysgoloriaethau i dri dyn ifanc. Y maent yn cael eu talu i ganu yn nhri côr yr Eglwys Gadeiriol, ac hefyd i weithio yn Swyddfa’r Deondy, y Siop, fel croesawyr yn yr Eglwys Gadeiriol ac fel Llyfrgellwyr yr Adran Gerddorol. Gobeithir eu gweld yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgolion lleol ac yng Ngŵyl Cerddorol yr Eglwys Gadeiriol a chynhalir ym mis Mai hefyd. Fe wnaeth pwyllgor gwaith y Cyfeillion cytuno i sefydlu’r prosiect hwn gan roi dau dreian o’r ysgoloriaeth a ddarparu t? ar gyfer yr ysgolorion.

Yn ystod y cyfarfod cafwyd darlith arbennig gan Dr Roy Massey, a fu ar un adeg yn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd. Ar ôl ei ddarlith, bu’r ysgrifennydd yn talu teyrnged i’r Deon am ei waith yn yr Eglwys Gadeiriol yn ystod yr 14 mlynedd diwethaf. Ar ôl y cyfarfod cynhaliwyd te ac yna Gosber a’r Gân a chanodd gôr yr Eglwys Gadeiriol, a oedd yn cynnwys y tri ysgolor newydd. Yna fe wnaeth dros 70 o’r cyfeillion fwynhau cinio arbennig yn Ffreutur yr Eglwys Gadeiriol, a ddarparwyd gan Ms Jo Saunders a’i staff. Ar y ddydd Sul gwelwyd dros 170 o bobl ym mynychu’r Cymun Corawl, lle wnaeth y Deon lywyddu, a’r Ysgrifennydd bregethu.
Yr oedd Ŵyl yn llwyddiannus iawn, a gobeithiwyd gweld mwy o Gyfeillion yn ymgynnull y flwyddyn nesaf i ddathlu gweinidogaeth yr Eglwys Gadeiriol, nid yn unig i’r esgobaeth, ond i’r wlad gyfan.

