To Church in Wales home page

Esgobaeth
Tyddewi
Mentro Mewn Cenhadaeth

HER AR GYFER DYDD GŴYL DDEWI

Mae neges Gŵyl Ddewi yr Esgob Wyn yn annog ymdeimlad newydd o gymuned

 

GALL GWELEDIGAETH DEWI SANT FOD O GYMORTH I ATEB HER yr 21ain GANRIF

Oddiwrth Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Wyn Evans

Bishop WynYn 2009 gwelwyd diwedd ar ddegawd a heriodd nifer o’r pethau yr oeddem yn eu cymryd yn ganiataol. Yn 2010 rydym ar trothwy cyfnod newydd sy’n herio nifer o’r pethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol. Rydym ar drothwy cyfnod pan fydd y pethau yr oeddem yn arfer eu derbyn heb amau yn dod yn fwy prin: tanwydd hawdd ei gael, ffynonellau newydd o fwyd, a mynediad at ddŵr. Bellach, nid yw llywodraeth sefydlog na pharch at hawliau dynol dros y blaned yn bethau y gallwn ddisgwyl eu gweld.
Golyga hyn i gyd bod gwaith ein gwleidyddion a’n harweinwyr gwleidyddol yn anoddach fyth. Fe fydd profiad a sgiliau ei harweinwyr gwleidyddol ym Mae Caerdydd, yn Strasbourg ac yn San Steffan, yn cael eu profi i’r eithaf. Fe fydd hyn i gyd hefyd yn her i waith y Cenhedloedd Unedig. Ni fydd y degawd nesaf hwn yn un hawdd i arweinwyr crefyddol chwaith.

Byddai dyfodol o’r fath, un ansicr a thywyll, yn beth cyffredin i Ddewi Sant. Ei ateb oedd ceisio cadw ei hun lled braich oddi wrth y byd, gan fyw bywyd darbodus a gweddigar mewn cymuned a ddangosai ofal a chonsyrn tuag at gymydog a phererin fel ei gilydd; cymuned a ganolbwyntiai ei hegni ar y pethau bychain a phwysig.    

Yr oedd ei ffordd o fyw, fel ei gyfoeswyr ar lannau Môr Iwerddon, yn gadael ôl troed ysgafn ar y Ddaear. Ysai am weld dyfodol a oedd wedi ei buro, ei adfer, a’i ail-greu fel Teyrnas Dduw, lle y medrai gwerthoedd cymdeithasol megis heddwch a chyfiawnder deyrnasu, nid yn unig yng Nghymru, ond drwy’r byd, fel y gallai ein cymdogion fyw mewn cymuned ac mewn cariad, heddwch a chyfiawnder.   

Felly, yr her o 2010 ymlaen, ar gyfer ein harweinwyr gwleidyddol a chrefyddol, yw ceisio glynu wrth y weledigaeth honno, a byw’r weledigaeth gan ymdrechu i drawsnewid, nid yn unig y Gymru newydd hyderus, ond yr holl fyd.