NEGES NADOLIG – Esgob Tyddewi, Y Gwir Barchedig Wyn Evans
Os ydym yn bobl sydd wrth natur yn edrych ar yr ochr olau i bethau neu ar yr ochr dywyll, mae’n rhaid cydnabod bod y cyfnod hwn yn ymddangos yn fwy cythryblus nag arfer. Rhaid inni sylweddoli cymaint yw’r her sy’n ein hwynebu o ganlyniad i ansefydlogrwydd economaidd, terfysgaeth ryngwladol, newid hinsawdd, ac amryw o faterion eraill; ond ni ddylem anwybyddu'r arwyddion cadarnhaol hynny o oleuni a bywyd y gwelwn o’n cwmpas, ond inni edrych yn ddigon gofalus. Yr hyn sydd ei angen arnom yw gobaith, wedi’i seilio ar ac yn deillio o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol yn ein byd heddiw.
Mae neges y Nadolig yn un o obaith sydd wedi ei ymgnawdoli yn y baban rhyfeddol yn y preseb. Mae’n stori am ddechreuadau newydd; am Dduw yn dod i fod gyda’i fyd ac i aros gyda’i bobl. Roedd y bobl a glywodd y newyddion am ddigwyddiadau rhyfeddol Bethlehem yn meddwl eu bod hwy yn byw mewn cyfnod cythryblus. Eto i gyd, dyma'r arwydd yr oeddent wedi bod yn ei geisio, addewid am bethau gwell i ddod, goleuni gobaith yng nghanol tywyllwch, goleuni yr aed ag ef trwy’r byd i gyd; newyddion da go iawn i gyfnod cythryblus.
Mae’n dal i fod yn newyddion da ar gyfer cyfnod cythryblus dros ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae’r gobaith hwnnw, a gynrychiolir ac a gnawdiwyd yn Iesu o Nasareth, yn parhau i’n hysbrydoli wrth iddo lewyrchu’n gryf yng nghalonnau pob Cristion. Ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn, mae’r newyddion da o lawenydd mawr yn ailgynnau'r gobaith sydd yng nghalon pob un: gobaith, o’i reoli’n ofalus a chydnabod ein cyfrifoldebau i’r rhai sydd mewn angen mawr, a all ddechrau gwneud yn iawn y camweddau economaidd sy’n deillio o drachwant rhai; gobaith, trwy gydnabod gwerth creadigaeth Duw, a all ddod o hyd i ffyrdd i gadw ein planet. Mae wedi rhoi yn ein gofal ni nad ydym i ddangos tuedd o blaid y nerthol nac yn erbyn y gwan; gobaith, gyda gwerthoedd a dealltwriaeth Gristnogol, a all estyn tuag at ein gelynion er mwyn dod o hyd i ffordd i fyw gyda’n gilydd mewn heddwch, gan barchu’r gwahaniaethau hynny sy’n ein rhannu ac yn dathlu’r pethau hynny sy’n ein clymu ynghyd fel dynoliaeth.

