Esgob Tyddewi
Y mae Esgob Tyddewi, Y Gwir Barchedig Carl Cooper, wedi ymddiswyddo. Y mae wedi ymddiheuro am unrhyw beth a wnaeth a barodd dramgwydd a’i gwneud hi’n amhosibl iddo barhau yn ei weinidogaeth fel Esgob Tyddewi.
Y mae’r Archesgob a Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi derbyn ei ymddiswyddiad fel y peth gorau i’r esgobaeth a’r Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ni fydd sylw pellach.
YMATEB I YMDDISWYDDIAD YR ESGOB
Yn sgil ymddiswyddiad Esgob Tyddewi, y Gwir Barchedig Carl Cooper, mae uwch glerigion yr esgobaeth wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd:
“Mae hyn wedi bod yn gyfnod anodd i Esgobaeth Tyddewi. Y mae cyhoeddiad Esgob Carl yn ein galluogi ni yn awr i symud ymlaen ac i ganolbwyntio ar yr agweddau niferus hynny sydd yn nodweddu galwedigaeth a gweinidogaeth yr Esgobaeth. Y mae digwyddiadau yr wythnosau diwethaf wedi pwyso’n drwm ar cynifer o bobl yn yr Esgobaeth a pharhawn i’w cynnal mewn gweddi.”
Y Tra Pharchedig John Wyn Evans, Deon Tyddewi
Yr Hybarch Ddr John Holdsworth, Archddiacon Tyddewi
Yr Hybarch Alun Evans, Archddiacon Caerfyrddin
Yr Hybarch Andrew John, Archddiacon Ceredigion

