Press Release
ESGOB WYN YN ARWAIN PERERINDOD
Pererindod i'r Wlad Sanctaidd
Ysgrifenna Esgob Wyn …
Gobeithiaf y byddwch yn ystyried ymuno â ni ar bererindod i Wledydd Sanctaidd Palesteina ac Israel ym mis Chwefror 2011. Ymwelais i â’r lle am y tro diwethaf ddeugain mlynedd yn ôl. Mae hwn yn gyfle gwych i gysylltu â mannau a thestunau’r Beibl ac i gyfarfod Iesu mewn ffordd newydd a gwefreiddiol. Down o hyd i’r efengyl mewn ffordd hynod o gyfoes ym mywydau’r Palesteiniaid ac Israeliaid a gyfarfyddwn wrth iddynt ein tywys trwy eu gwlad hardd a chythryblus. Bydd yr amrywiaeth o safleoedd a sefyllfaoedd yn siarad â phob un ohonom mewn ffordd wahanol; ond bydd undod ar ein taith wrth i ni adnewyddu ein hymrwymiad i Iesu, sydd yr un ddoe a heddiw ac am byth. Bydd y daith yn
un llawn chwerthin a llawenydd, addoliad a chymdeithas. Bydd angen symudedd rhesymol arnoch oherwydd bod yna
ychydig o gerdded a llawer o risiau!
Entered By Paul Davies - 28.06.10
The Vicarage,Cae Ffwrnes,
Burry Port,
SA16 0FW
Email Address: plglldavies@btinternet.com
Telephone: 01554832936

