Cynhadledd yr Esgobaeth
Aelodau Cynhadledd yr Esgobaeth yw'r aelodau lleyg hynny a etholir gan y Cynadleddau Deoniaethol, ac yn rhinwedd eu swydd y clerigion sydd yn gwasanaethu yn yr esgobaeth, ynghyd ag aelodau eraill a gyfetholir ac a enwebir. Llywydd y Gynhadledd yw'r Esgob.
Mae gan y Gynhadledd Esgobaethol nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau yn unol â Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys ethol aelodau i Gorff y Cynrychiolwyr, y Corff Llywodraethol, a'r Bwrdd Enwebu Esgobaethol.
Mae gan y Gynhadledd hefyd ran yn aildrefnu'r patrwm o ofal bugeiliol o fewn i'r esgobaeth, ond caiff llawer o'i dyletswyddau yn y maes hwn, fel mewn meysydd eraill, eu dirprwyo i'r Pwyllgor Sefydlog.
Bydd y Gynhadledd yn derbyn adroddiadau oddi wrth amryw fyrddau a phwyllgorau esgobaethol, a hefyd yn derbyn y gyllideb a'r cyfrifon ariannol wedi'u harchwilio.
Y Pwyllgor Sefydlog
Caiff y Pwyllgor Sefydlog ei gadeirio gan yr Esgob, a'r Pwyllgor hwn yw corff gweithredol Cynhadledd yr Esgobaeth. Mae'n cynnwys aelodau lleyg a chlerigion wedi'u hethol o bob Deoniaeth, ynghyd ag aelodau yn rhinwedd eu swyddi ac aelodau sydd wedi'u henwebu.
Wrth ddefnyddio'r pwerau a ddirprwywyd iddo mae'r Pwyllgor yn gweithredu ar ran y Gynhadledd ac yn cydweithio gyda'r Esgob i adrefnu gofal bugeiliol wrth uno plwyfi â'i gilydd, ail-lunio ffiniau plwyfi, ayyb.
Gan y Pwyllgor hefyd y mae'r cyfrifoldeb o gyfrannu at ddatblygiad cenhadaeth a gweinidogaeth o fewn i'r esgobaeth, a phan fo galw am hynny, ystyried materion sy'n cael eu cyfeirio ato oddi wrth y Gynhadledd, y Corff Llywodraethol a Chorff y Cynrychiolwyr.
Yn olaf, y Pwyllgor Sefydlog, trwy ei gyd-ysgrifenyddion Lleyg a Chlerigol, sy'n gyfrifol am gynllunio a threfnu'r Gynhadledd flynyddol.
Bwrdd Enwebu'r Esgobaeth
Mae'r hawl i goladu neu enwebu i ofalaeth wag yn perthyn un ai i Esgob yr Esgobaeth, Bwrdd Enwebu'r Esgobaeth neu Fwrdd Enwebu'r Dalaith. Sefydlir cylch er mwyn sicrhau dau 'dro' ym mhob pedwar i'r esgobaeth.
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod o dan gadeiryddiaeth yr Esgob. Bydd yr aelodau yn cynnwys y tri archddiacon a'r aelodau lleyg a chlerigol a etholir gan y Gynhadledd. Bydd tri aelod lleyg ar y Bwrdd ond bydd nifer yr aelodau clerigol yn dibynnu ar nifer y plwyfi sydd yn y fywoliaeth wag. Bydd cynrychiolwyr lleyg o'r fywoliaeth wag hefyd yn dod i gyfarfodydd. Fe'u hetholir hwyr gan y Cynghorau Plwyfol Eglwysig perthnasol pan fydd bywoliaeth yn dod yn wag.
Er mai'r Bwrdd sy'n enwebu i fywoliaeth wag, yr Esgob sy'n apwyntio.
Caiff bywoliaethau gwag o fewn i'r esgobaeth eu hysbysebu yn y Church Times ac ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Dylai clerigion sydd am drafod bywoliaeth wag gysylltu ag Ysgrifennydd y Bwrdd, y Parchg Roger Jones, roger@revjones.fsnet.co.uk. Caiff pob ymholiad ei drin yn gyfrinachol.
In addition to its role in nominating to vacancies, the Board also works very closely with the Diocesan Churches and Pastoral Committee in considering the most effective manner in which ministerial and pastoral needs are met within the diocese.

