sefydliadau
Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig (RSCM)
Mae Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig yn ymroddedig i wneud y defnydd gorau o gerddoriaeth dda mewn addoliad heddiw, ac i fuddsoddi mewn cerddoriaeth eglwysig at y dyfodol. Drwy addysgu, hyfforddi, cyhoeddiadau, cyngor ac anogaeth, mae’n cefnogi rhwydwaith fyd-eang o 9,000 o eglwysi, ysgolion ac unigolion.

Drama Geni Plant yr RSCM
Mae Ardal Gorllewin Cymru yn cynnal calendr bywiog o ddigwyddiadau, yn cynnwys dyddiau corawl, hyfforddiant ar gyfer organyddion gwirfoddol a gweithdai cerddoriaeth ddigidol. Mae hefyd yn gweinyddu’r rhaglen ddatblygu strwythuriedig Voice for Life ar gyfer cantorion. Ar ben hyn, mae’r Tîm Datblygu Cerddoriaeth ar gael fel adnodd i eglwysi sydd am wella eu safonau cerddorol - neu ond i gynnig manteision clust brofiadol.
UNDEB Y MAMAU (UM)
Sefydlwyd Undeb y Mamau gan Mary Sumner yn 1876, blwyddyn ar ôl sefydlu’r GFS. Dechreuodd ein cangen gyntaf yn yr esgobaeth yn 1884. Cymdeithas Gristnogol yw Undeb y Mamau a’i holl weithgareddau wedi’u hadeiladu ar sail gref gweddi. Erbyn heddiw y mae dros 3.6 miliwn aelod mewn 78 gwlad drwy’r byd. Asgwrn cefn Undeb y Mamau yw’r rhwydwaith yma o wragedd ag iddynt gefndir lleol ond ag ymrwymiad i fywyd priodasol a’r teulu.
Ein Diben yw ymwneud yn arbennig â phopeth sy’n nerthu ac yn cynnal priodas a bywyd teuluol Cristnogol. Bwriad y gymdeithas yw hyrwyddo’r grefydd Gristnogol ym maes priodas a bywyd teuluol.Er mwyn cyflawni’r Bwriad hwn , y pump Amcan yw:
- Cynnal dysgeidiaeth Crist am natur priodas, a hybu gwell dealltwriaeth ohono.
- Annog rhieni i fagu eu plant yn ffydd a bywyd yr Eglwys.
- Cynnal cymdeithas fyd-eang o Gristnogion, sydd wedi eu huno mewn gweddi, addoliad a gwasanaeth.
- Meithrin amgylchiadau cymdeithasol a fydd yn hybu bywyd teuluol sefydlog ac yn amddiffyn plant.
- Helpu’r rheini y mae eu bywyd teuluol mewn argyfwng.
Y mae ein holl waith, gartref a thramor, yn seiliedig ar y bwriad a’r amcanion yma. Y mae gennym 300 o weithwyr cyflogedig dros y byd, gwragedd o esgobathau lleol, ac felly’n gallu siarad yr iaith, yn deall y diwylliant a’r arferion a chanddynt brofiad uniongyrchol o’r problemau sy’n wynebu eu cymdogion. Maent yn darparu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol ac yn galluogi pobl i ennill sgiliau anhepgoral, yn datblygu a hybu prosiectau hunan-gymorth cynaliadwy. Mae ein Rhaglen Llythrynnedd yn Malawi, Sudan,Burundi wedi galluogi dysgwyr i fod yn llythrennog a rhifog yn ogystal ag ennill sgiliau mewn iechyd a glanweithdra, HIV/AIDS a dileu tlodi.Yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cenhedloedd Unedig ar faterion sy’n effeithio’r teulu. Mae ein polisi gwaith yn herio achosion gwraidd anghyfiawnder ac mae ein prosiectau’n ceisio datrus anghenion pob dydd yr unigolyn a’u teuluoedd. Cynigwn gymorth ariannol ymarferol yn ddioed pryd bynnag y digwydd trychineb unrhyw fan yn y byd e.e. y tswnami; y daeargryn yn Pakistan; gwersylloedd ffoaduriad yn Affrica. Yn ein hesgobaeth ddwyiethog y mae canolfannau i alw mewn dros dro, a rhown wyliau i deuluoedd sydd ag amrhyw byd o anghenion, rhown help yn ysbytau lleol, gyda Chenhadaeth y Morwyr, ac yn ein plwyfi a’n cymdogaeth ein hunain, mewn cartrefi gwarchod, yn ein heglwysi a chymdeithasau ieuenctyd. Codwn arian i’r gweithgareddau hyn gartref a thramor. Cysylltwn mewn gweddi â saith esgobaeth arall - dwy yn Awstralia, ac un yr un yn Ne Affrica, Uganda, Kenya, Sudan a Nigeria. Y mae gennym 2000 o aelodau mewn 100 cangen ac hefyd ambell aelod esgobaethol nad ydynt, am ryw rheswm neu’i gilydd, yn gallu dod i gyfarfod lleol. Mae rhai aelodau yn rhan o gadwyn gweddi fywiog iawn, rhai ohonynt yn aelodau sydd yng nghlwm i’r cartref. Cynhelir enciliau a diwrnodau tawel preswyl drwy’r esgobaeth.
Etholir y tîm esgobaethol am dair blynedd . Rydym newydd ddechrau teirblwydd 2007- 2009l a’n tîm yw :
Llywydd Esgobaeth Tyddewi : Mrs. Ann Gill
Is-Lywyddion :-
Caerfyrddin: Mrs. Joyce Rees;
Tyddewi : Mrs. Rosemary Hayes
Aberteifi : Mrs. Marjorie Luckhurst
Llywyddion am oes:
Mrs. Nansi Jones a Mrs. Mair John
Trefnyddion
Polisi a Ffydd: Mrs. Val Petherick
Gweithredu a Gwaith allanol: Mrs. Megan Hopkin-Thomas
Marchnata ac Archifydd: Mrs. Jean Oliver
Prynwr mentrau UM: Mr. Wyndham Gill
Caplan: Y Parch Bryan Witt
Ysgrifennydd: Mrs. Brenda Evans
Trysorydd: Mrs. Vireen Davies

