Twristiaeth - adnoddau i Eglwysi
Mae miloedd o bobl yn ymweld ag eglwysi yn Esgobaeth Tyddewi bob blwyddyn. Ein cyfrifoldeb felly yw sicrhau eu bod yn cael profiad sy’n eu cyfoethogi yn ogystal â rhoi mwynhad iddynt ym mhob un eglwys, beth bynnag fo’r rheswm am yr ymweliad.
Mae’r wefan hon ac adnoddau eraill sydd ar gael i’w lawrlwytho yn cynnwys yr holl agweddau hynny sy’n effeithio ar ansawdd profiad yr ymwelydd a helpu pob eglwys i wella’r profiad hwnnw. Ein dymuniad yw:
- I’r adeiladau eglwysig fod yn fannau addoli a chroeso lle yr adnabyddir Duw
- ‘Twristiaid i droi’n bererinion’
- Pawb ohonom i brofi mwy o groeso Duw
- I ni gael ein symud ymlaen ar ein taith ysbrydol
Mae pob eglwys yn unigryw, a chanddi nodweddion a lleoliad gwahanol ac arbennig. Cydnabyddir fod yr hyn sy’n addas ac ymarferol mewn un Eglwys ddim o reidrwydd yn iawn mewn un arall.
Mae’n bwysig sylweddoli o’r cychwyn nad oes angen i’r mwyafrif o’r gwelliannau gostio symiau anferth o arian a thynnu ar adnoddau prin. I’r rhai sy’n dadlau fod y fath ymdrechion yn costio arian na allwn ei fforddio, dywedwn, ystyriwch y gost o wneud dim: yn gyntaf, adeilad gwag sy’n agored i ladron; yn ail, nid yw drws ar glo yn gwneud argraff dda ar ymwelwyr o beth yw Cristnogaeth.
Er enghraifft mae arwyddion eglur, cyfamserol, gatiau clir, blodau ffres a gwybodaeth i ymwelwyr yn rhoi neges o groeso. Mae’n dangos hefyd i unrhyw ladron a fandaliaid fod pobl yn ymweld á’r eglwys a’r gymuned yn gofalu amdani. Y neges yw nad dim ond ar adeg gwasanaethau y bydd pobl yn galw heibio – felly cymerwch ofal! AR ben hynny os byddwch yn gwneud cais am arian y Loteri Fawr fe fydd yn rhaid dangos bod yr adeilad yn hygyrch er mwyn cael grant.
Un ffordd syml i gyflwyno ac annog ymwelwyr yw cysylltu á’t ganolfan groeso i ymwelwyr. Gall gweithio ar y lefel yma olygu dangos poster yn gwahodd pobl i droi oddiar y llwybrau arferol ac ymweld á’r eglwys. Gallwch ofyn i’r Ganolfan grybwyll enw’r eglwys yn eu taflenni a’i ychwanegu i’w databas o lefydd i ymweld á hwy heb i hynny gostio dim, ac y mae’n tynnu sylw aty eglwys y plwyf.
Unwaith eich bod chi wedi magu ewyllys i pharatoi’r ffordd, daw syniadau ac atebion yn amlwg. Mae gan y rhan fwyaf o eglwysi ryw weithgareddau cyhoeddus y gellir eu datblygu fel gwyl flodau ar wyl fabsant, rhwbio darluniau oddiar efydd, cyngerddau achlysurol a gellir cyflwyno arbrofion newydd wedyn, datblygu ymweliadau gyda thywysydd, er enghraifft ar ddydd Sul a dyddiau Gwyl a gwyliau arbennig. Gellir darparu ymborth ysgafn i’w werthu. Eto , nid yw’r gsot yn fawr , ond mewn ymroddiad gan y plwyf, ond os yw’r offeiriad a’r Cyngor Plwyf yn cytuno, gellir goresgyn yr anawsterau a dargnafod ffyrdd ymlaen.
Mae’r posibiliadau yn ddibeendraw, a gall nifer o sefydliadau roi cynnig yn rhad ac am ddim, a weithiau gymorth ariannol. Yn eu polith y mae’rcyhnghollrau Celfyddydau lleol, Y bwrdd Croeso a chymdeithasau ymwelwyr y dref a’r sir. Meddyliwch yn ddargyferiol – mae hynny’n swnio’n boenus – ‘drychwch tua chwith a gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud.
Nid yw pwysigrwydd pensaerniol ar ei ben ei hun yn gwarantu ymwelwyr. Rhamant, chwedlau, sefyllfa, rhyw nodweddion doniol neu anghyffredin – mae nhw i gyd yn cyfrif wrth ddenu sylw ymwelwyr.Gall acdemyddion rhyfeddu at berpendiciwlar Gothic – ond cánt bleser yn y pethau bach hynod hefyd.
Mae rhai plwyfi eisoes yn gweld bod twristiaid yn gallu bod yn hael, a chael llés o hynny6. Efallai na fydd yr ymwelwyr yn ymddiddori yng y gwasanaethau addoli, ond prin fydd y rhai na chánt eu cyffwrdd gan harddwch pensaerniol a gwaith crefft a welir yng nghymaint o’n heglwysi. Os medrwn eu hannog i werthfawrogi a deall y trysordai hyn, gallant gael eu hysbrydoli gan Gristnogaeth. Felly.
- I grynhhoi:
- Meddyliwch am yr arbrofion all hyrwyddo partneriaethau a denu’r gymuned a’r bobl sy’n darparu ar gyfer twristiaeth i gydweithredu.
- Beth arall sy’n digwydd yn y pentref neu yn yr ardal y gallwn ymuno ag ef – digwyddiadau a grwpiau eraill.
- Gwnewch yn siwr fod eich syniadau yn REALISTIG, ADDAS, cyraeddadwy a chynaladwy.

