Twristiaeth
- annog ymweliadau gan ysgolion a grwpiau
Mae’r rhestr ganlynol yn darparu syniadau am sut i annog grwpiau ysgolion ac eraill i ymweld á’ch eglwys.
- Mae adran addysg eich awdurdod lleol yn darparu ‘bag post’ wythnosol i’r holl ysgolion yn eich ardal – gofynnwch a am gael anfon gwybodaeth i’r ysgolion ynddo.
- Bydd gan eich llyfrgell leol gyfarwyddiadur o o holl grwpiau a chymdeithasau’r ardal, gan gynnwys scowtiaid,/ guides, mudiadau’r urdd a’r ffermwyr ifanc ayyb
- Lluniwch boster a thaflen wybodaeth am ymweliadau i blant a gwasgarwch hwy mor helaeth ag y medrwch – defnyddiwch ‘nhw fel taflenni a’u hanfon i ysgolion a’u harddangos mewn swyddfeydd post lleol, canolfannau gwybodaeth twristiaid, llyfrgelloedd ac eglwysi eraill ayyb
- Gwahoddwch y Maer lleol a phobl adnabyddus eraill i gymeryd rhan mewn digwyddiadau i godi arian i achosion da - dringo’r tŵr, er enghraifft, os oes gennych chi un. Gwahoddwch y wasg a dweud fod ymweliadau grwp ar gael. Gallwch wneud hyn er mwyn cyhoeddusrwydd gyda phob Maer newydd a phan fo tymor yr hâf yn cychwyn.
- Tynnwch yr ymwelwyr i mewn i’r hysbysebu – rhowch gopiau o bosteri iddynt i’w harddangos yn y mannau lle y maen ‘nhw’n cyfarfod.
- Sicrhewch eich bod yn mynd i gysylltiad â’r grwpiau hyn o leiaf unwaith y flwyddyn i’w hatgoffa am eich bodolaeth – mae taflenni’n aml yn mynd ar grwydr ac yn cael eu colli

